Dwy swydd Cyfarwyddwr Gweithredol newydd

09 Tachwedd 2020
  • Cyfleoedd newydd i weithio gyda ni

    Ym mis Ebrill 2020, mabwysiadodd yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru hunaniaeth newydd sef Archwilio Cymru, ac rydym nawr am benodi dwy swydd newydd: Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, a Chyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid.

    Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio

    Bydd y CG Gwasanaethau Archwilio yn arwain y gwaith o gyflawni rhaglen helaeth Archwilio Cymru o archwilio ariannol a pherfformiad, gan sicrhau cyflawniad ac ansawdd y gwaith. Byddant yn datblygu ein rhaglen waith, gan ddarparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, a datblygu'n cysylltiadau ag uwch randdeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru, y Senedd, y sector cyhoeddus, grwpiau proffesiynol, asiantaethau archwilio yn y DU ac yn rhyngwladol, y byd academaidd, y cyfryngau a sefydliadau perthnasol eraill.

    Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid

    Bydd y CG Cyfathrebu a Newid yn arwain ar swyddogaethau cyfathrebu, ymgysylltu, cynllunio strategol a newid o fewn Archwilio Cymru. Byddant yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad i'n cyfathrebiadau mewnol ac allanol, ein brand, ein henw da a'n hymgysylltu, gan ddatblygu ein cynlluniau busnes a'n rhwydweithiau, a byddant yn gweithredu fel cynghorydd allweddol i'r Archwilydd Cyffredinol ar bob agwedd o gyfathrebu, y cyfryngau, arferion da, newid, a chydberthnasau rhanddeiliaid.

    Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

    Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o dîm arwain gweithredol bychan, unedig a deinamig. Rydyn ni'n chwilio am feddylwyr strategol hirdymor a chyfathrebwyr gwych sy'n weladwy, yn ddeinamig ac yn angerddol, ac sy'n gallu ein harwain i ysgogi a chyflawni newid.

    Sut i wneud cais

    Darganfyddwch fwy am y swyddi ar ein tudalen swyddi [agorir mewn ffenestr newydd] ac fe allwch wneud cais drwy Odgers [agorir mewn ffenestr newydd].