Dweud eich dweud am wasanaethau hamdden yng Nghymru

09 Tachwedd 2020
  • Arolwg dinasyddion wedi'i lansio o gyflwr presennol gwasanaethau chwaraeon a hamdden cynghorau yng Nghymru  

    Mae gwasanaethau'n newid Cymru. Ar yr adeg hon o galedi mae llywodraeth leol yn gorfod ailasesu pa wasanaethau i'w blaenoriaethu ac mae llawer o wasanaethau bellach yn gorfod cael eu darparu gyda llai o arian. 
    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: 
    Mae angen i awdurdodau sicrhau bod yr hyn a ddarparant yn cael ei werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'i fod yn gosteffeithiol. Mae gwasanaethau hamdden yn agwedd bwysig ar ein bywydau beunyddiol, ond mae perygl y cânt eu lleihau yn y cylch cyfredol o doriadau i'r gyllideb. Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i ddweud eu dweud am y gwasanaethau hyn a sut mae eu cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynghylch ble i wneud toriadau i'r gyllideb.

    Mewn cyfres o adroddiadau, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ymchwilio i effaith y newidiadau hyn ar y cyhoedd yng Nghymru a hoffem glywed gennych er mwyn cael gwybod pa mor dda yw gwasanaethau hamdden eich cyngor lleol a beth y dylid ei wneud i'w gwella yn eich barn chi.

    Mae'r tîm adolygu am glywed gennych a chlywed am eich profiadau o ran gwasanaethau hamdden, a bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lunio a datblygu'r adroddiad terfynol sy'n cael ei lunio yn 2015.
    Rydym wedi llunio arolwg byr i ategu'r gwaith hwn ac yn annog trigolion ac ymwelwyr i ddweud wrthym am eu profiad, boed yn dda neu'n wael, wrth ddefnyddio gwasanaethau hamdden y cyngor.
    Gallwch gwblhau'r arolwg byr, dienw drwy fynd i'n gwefan Eich hamdden [Agorir mewn ffenest newydd] sy'n rhoi dolen i'r arolwg yn ogystal â rhagor o wybodaeth.