Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Defnyddia dy Gymraeg

20 Rhagfyr 2023
  • Defnyddia dy Gymraeg yw ymgyrch Comisiynydd y Gymraeg sydd â'r nod o annog y cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd a rhoi cyfle i sefydliadau o bob math hyrwyddo eu gasanaethau Cymraeg.

    Er bod Archwilio Cymru yn darparu gwasanaeth cyfyngedig i'r cyhoedd, rhoddodd Defnyddia dy Gymraeg gyfle i ni edrych ar y gwaith da a wnawn wrth hyrwyddo ein Strategaeth Gymraeg fel  y gall staff, "weld, clywed a defnyddio" y Gymraeg, hyrwyddo ein cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, sut rydym yn defnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru a sut y gall staff ac Aelodau’r Bwrdd ddefnyddio eu Cymraeg.

    Ymgyrch “Defnyddia dy Gymraeg” Archwilio Cymru

    Yn ystod yr ymgyrch, gwnaethom gynnwys sawl erthygl yn amrywio o drosolwg o'r ymgyrch, gan gyfeirio at ein Strategaeth Gymraeg sydd wedi'i diweddaru'n ddiweddar, hyrwyddo cyfleoedd dysgu o fewn y sefydliad, a gofyn i staff ac aelodau'r Bwrdd gofnodi sut a phryd y gallant ddefnyddio eu Cymraeg, fel y gallwn hyrwyddo ar draws y sefydliad.

    Sut mae rhai o'r bobl yn Archwilio Cymru yn defnyddio'r Gymraeg

    Dyma beth ddywedodd rhai o'r bobl a holwyd am sut maen nhw'n defnyddio eu Cymraeg, sut wnaethon nhw ddysgu a beth mae'n ei olygu iddyn nhw.

    Ian, Aelod o'r Bwrdd

    'Fel person a fagwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg (un o'r genhedlaeth goll o siaradwyr Cymraeg) rwy'n ffodus iawn bod fy rhieni wedi fy anfon i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ac ysgol uwchradd ddwyieithog.

    Roedd ymarfer fy Nghymraeg yn yr ysgol a gyda ffrindiau yn ffordd ardderchog o wella fy iaith - er fy mod yn dal i wneud camgymeriadau!'

    Matthew, Cyfarwyddwr, Ymarfer Archwilio Ariannol

    'Mae defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith yn helpu i feithrin dealltwriaeth a chreu perthynas waith gryfach ag eraill, gan helpu i atgyfnerthu ymddiriedaeth a pharch.

    Mae'n sgil allweddol sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein perthynas waith gyda'r cyrff a archwilir sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.'

    Molly, Hyfforddai Archwilio, Ymarfer Archwilio Ariannol

    'Mae'n braf iawn gallu siarad a chlywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn sgyrsiau yn ddyddiol yn y swyddfa.

    Rwyf hefyd yn mwynhau gallu defnyddio'r Gymraeg yn fy ngwaith er enghraifft wrth gwblhau archwiliad Comisiynydd y Gymraeg.'

    Lora, Uwch Archwilydd - Perfformiad

    'Rydw i'n manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg yn fy ngwaith bob dydd efo siaradwyr Cymraeg eraill a gyda dysgwyr a hefyd yn defnyddio cyfarchion Cymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig efo'r di-Gymraeg i ddangos fod o yn eiddo i bawb.'

    Digwyddiadau Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu, Mai 2023

    Buom hefyd yn myfyrio ar ddigwyddiad a drefnwyd mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystyried sut y gall y sector cyhoeddus a grwpiau'r trydydd sector gydweithio i helpu i greu, Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.  

    Roeddem yn ffodus i gael Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru fel y prif siaradwr, gan fyfyrio ar y gwaith y mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg drwy bopeth a wnânt a "Rhoi’r Gymraeg a Chymuned yng nghanol pêl-droed Cymru."

    llun o'r panel o'r chwith i'r dde Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, Derek Walker, Comisiynydd y Genedlaethau Dyfodol, Sian Morris Jones, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned yr Urdd ac Einir Sion, Cymhorthydd y Gymraeg i Gelfyddydau Cymru

     

    Roedd sawl gweithdy hefyd yn edrych ar wahanol agweddau ar y nod Llesiant, a hwyluswyd gan yr Urdd, Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Thîm Cymunedol Rygbi'r Dreigiau.

    Y thema gylchol trwy gydol ein hymgyrch yn y cyfryngau oedd annog pobl i roi cynnig ar eu Cymraeg a chreu man lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i ymateb i’r alwad "Defnyddia dy Gymraeg!"