Dau Archwilydd Dan Hyfforddiant Swyddfa Archwilio Cymru Yn Cipio Gwobrau O Fri

09 Tachwedd 2020
  • Mae dau o hyfforddeion Swyddfa Archwilio Cymru wedi cipio gwobrau o fri, wrth iddynt weithio tuag at ennill eu cymwysterau Cyfrifydd Siartredig ACA gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). 

    Mae Dylan Rees a Neall Hollis ill dau wedi ennill gwobr Urdd Teilyngdod mewn Pwnc Rhyngwladol i gydnabod eu safonau cyflawniad uchel.

    Enillodd Dylan Rees, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, wobr Knox am gael y marciau uchaf ledled y byd yn y papur Adroddiadau Ariannol yn arholiadau ACA ym mis Rhagfyr.

    Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    Mae'r rhain yn gyflawniadau gwirioneddol wych ac maent yn dangos safon uchel y myfyrwyr sydd gennym ar Gynllun Hyfforddeion Swyddfa Archwilio Cymru. Gobeithio y bydd y newyddion hyn yn annog myfyrwyr eraill i fynd ar drywydd gyrfa ym maes archwilio yn y sector cyhoeddus ac i wneud cais am ein Cynllun Hyfforddeion. Mae'r rownd ddiweddaraf ar agor i ymgeiswyr ar hyn o bryd.

    Sefydlwyd gwobr Knox drwy arian a adawyd yn ewyllys George Walter Knox, un o aelodau gwreiddiol ICAEW, a chyn-lywydd y sefydliad. Daeth Neall Hollis, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, yn gydradd gyntaf yn y papur Strategaeth Fusnes, gan ennill gwobr Railton.

    Cyflwynir y gwobrau i'r ddau yn seremoni wobrwyo Ryngwladol ACA yn Llundain ym mis Mai eleni.

    Dywed Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Garner, heddiw:

    Rydym yn ymrwymedig i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o archwilwyr cyhoeddus ac rydym yn ymfalchïo'n fawr yng nghyflawniadau diweddar Dylan a Neall. Mae'r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu yma yn Swyddfa Archwilio Cymru yn paratoi unigolion ar gyfer y rhan bwysig y byddant yn ei chwarae wrth helpu i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian cyhoeddus a bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.