Cyrff y GIG yng Nghymru yn llwyddo i fantoli'r gyllideb yn 2012-13

09 Tachwedd 2020
  • Ond mae gostyngiadau o ran y gwasanaethau a ddarperir mewn rhai meysydd allweddol ac mae heriau ariannol sylweddol a heriau sylweddol o ran gwasanaethau yn y dyfodol

    Llwyddodd cyrff y GIG i gyrraedd eu targedau ariannol statudol yn 2012-13 er gwaethaf setliad ariannol anodd ond nid yw rhai o'r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn mantoli'r gyllideb yn gynaliadwy, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

    Cyhoeddwyd 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt' gan Swyddfa Archwilio Cymru a chanfu hefyd fod perfformiad gwasanaethau wedi dirywio yn 2012-13 mewn rhai meysydd allweddol. Noda'r adroddiad fod GIG Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran gwasanaethau a chyllid yn 2013-14 a'i fod yn debygol o'i chael hi'n anodd i gynnal lefelau gwasanaeth a pherfformiad presennol.

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    "Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweithio'n galed i fantoli'r gyllideb yn 2012-13. Ond dim ond rhan fach o'r stori yw hynny. Nododd cyrff y GIG eu bod wedi llwyddo i wneud tua £190 miliwn o arbedion yn 2012-13: swm sylweddol er gwaethaf y ffaith ei fod rhyw £100 miliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Ymddengys fod rhai o'r arbedion hyn a gofnodwyd wedi'u gorddatgan a bod cyrff y GIG yn dibynnu ar arbedion untro anghynaliadwy er mwyn mantoli'r gyllideb. Gostyngodd rhai o gyrff y GIG driniaethau cynlluniedig er mwyn eu helpu i reoli gwasanaethau argyfwng a phwysau ariannol".

    Datganiadau i'r wasg

    Ond mae gostyngiadau o ran y gwasanaethau a ddarperir mewn rhai meysydd allweddol ac mae heriau ariannol sylweddol a heriau sylweddol o ran gwasanaethau yn y dyfodol

    Llwyddodd cyrff y GIG i gyrraedd eu targedau ariannol statudol yn 2012-13 er gwaethaf setliad ariannol anodd ond nid yw rhai o'r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn mantoli'r gyllideb yn gynaliadwy, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

    Cyhoeddwyd 'Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt' gan Swyddfa Archwilio Cymru a chanfu hefyd fod perfformiad gwasanaethau wedi dirywio yn 2012-13 mewn rhai meysydd allweddol. Noda'r adroddiad fod GIG Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran gwasanaethau a chyllid yn 2013-14 a'i fod yn debygol o'i chael hi'n anodd i gynnal lefelau gwasanaeth a pherfformiad presennol.

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweithio'n galed i fantoli'r gyllideb yn 2012-13. Ond dim ond rhan fach o'r stori yw hynny. Nododd cyrff y GIG eu bod wedi llwyddo i wneud tua £190 miliwn o arbedion yn 2012-13: swm sylweddol er gwaethaf y ffaith ei fod rhyw £100 miliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Ymddengys fod rhai o'r arbedion hyn a gofnodwyd wedi'u gorddatgan a bod cyrff y GIG yn dibynnu ar arbedion untro anghynaliadwy er mwyn mantoli'r gyllideb. Gostyngodd rhai o gyrff y GIG driniaethau cynlluniedig er mwyn eu helpu i reoli gwasanaethau argyfwng a phwysau ariannol.
    Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod angen gwella trefniadau cynllunio cyrff y GIG. Ar ddechrau'r flwyddyn, lluniodd cyrff y GIG gynlluniau ariannol a oedd yn dangos, yn dechnegol, bod ganddynt ddigon o incwm a chynilion i gyfateb i'w gwariant, ond yn aml, nid oedd y cynlluniau hyn yn cynnwys llawer o gynlluniau manwl, os o gwbl, yn dangos sut y byddent yn cael eu cyflawni drwy newidiadau i wasanaethau neu'r gweithlu. Mae cyfleoedd sylweddol i wella'r broses o integreiddio cynlluniau ariannol, cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau'r gweithlu ymhob rhan o GIG Cymru.

    Ystyria'r adroddiad berfformiad y GIG yn 2012-13 a nododd y bu gwelliant yn erbyn targedau effeithlonrwydd, gyda chleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.  Mae'r ffaith bod cleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty wedi rhyddhau staff a gwelyau i drin cleifion eraill neu er mwyn cyflawni arbedion ariannol.

    Parhaodd Huw Vaughan Thomas;  "Mae perfformiad gwasanaethau mewn rhai meysydd allweddol sy'n canolbwyntio ar gleifion wedi gwaethygu.  Mae amseroedd aros ar gyfer triniaethau cynlluniedig wedi dirywio yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda  nifer cynyddol o gleifion yn aros mwy na chwe mis i gael triniaeth.  Mae perfformiad ym maes gofal brys hefyd wedi gwaethygu er bod y rhesymau dros hyn yn gymhleth - mae adrannau brys o dan bwysau cynyddol sy'n golygu bod cleifion yn aros yn hirach i gael triniaeth neu i gael eu derbyn i'r ysbyty o gymharu â'r tair blynedd diwethaf."

    Mae dangosyddion ansawdd gofal eraill yn dangos rhai gwelliannau.  Mae perfformiad wrth ddarparu rhai gwasanaethau strôc wedi gwella'n gyffredinol.  Mae nifer yr heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd wedi lleihau, ond mae pryderon o ran ansawdd data.

    Gan edrych i'r dyfodol, mae'r GIG yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran cyllid a gwasanaethau.  Croesawn gynlluniau'r Adran i symud o'r targed blynyddol o fantoli'r gyllideb, gan ei gwneud yn ofynnol yn lle hynny i gyrff gyflwyno cynlluniau tair blynedd sy'n cysylltu cynlluniau cyllid, gwasanaeth a'r gweithlu.  Ond erys rhywfaint o ansicrwydd a risgiau, yn enwedig o ran sut i ariannu buddsoddiad cychwynnol yn y cynlluniau tair blynedd ac o ran sicrhau na fydd cyrff y GIG yn cronni diffygion anghynaliadwy erbyn diwedd y cyfnod o dair blynedd.

    Mae'r pwysau ariannol a'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn y byrdymor yn arbennig o ddifrifol.  Mae cyrff y GIG wedi ei chael hi'n anodd nodi arbedion digonol gan ddechrau blwyddyn ariannol 2013-14 gyda bwlch ariannu net o tua £210 miliwn.  Disgwylir i'r toriadau gwariant cyhoeddus barhau am sawl blwyddyn eto, a chan fod llawer o'r arbedion amlycaf eisoes wedi'u gwneud, mae'r sefyllfa yn y tymor canolig i'r hirdymor yn edrych yn heriol iawn. Oni cheir newid sylweddol o ran trefniadau cyllido neu oni chaiff gwasanaethau eu trawsffurfio, mae'r GIG yng Nghymru yn debygol o'i chael hi'n anodd gweithredu o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddo a chynnal y lefelac ansawdd gwasanaethau gyfredol.

    Gwneir rhywfaint o gynnydd o ran trawsffurfio ac ad-drefnu gwasanaethau, ond caiff cyflymder newidiadau ei gyfyngu gan wrthwynebiad sylweddol gan y cyhoedd a gwleidyddion i rai o'r cynigion.  O ystyried cyfradd y cynnydd, maint y gwrthwynebiad i rai o'r cynigion a'r tebygolrwydd y bydd rhai o'r newidiadau yn gofyn am fuddsoddiad uniongyrchol, mae'n annhebygol y bydd y broses ad-drefnu yn datrys y pwysau ariannol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru yn ystod y dair blynedd nesaf.  Fodd bynnag, yn yr hirdymor, ad-drefnu gwasanaethau sy'n cynnwys trawsffurfio'n sylweddol yw'r gobaith gorau i sicrhau sail gynaliadwy i'r GIG yng Nghymru.

    Nodiadau i Olygyddion:

    •  Cenhadaeth Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau fel y gall pobl Cymru gael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'u rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i nodi a lledaenu arfer da ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.