Cyfleuster BrowseAloud ar gael ar ein gwefan nawr

09 Tachwedd 2020
  • Wrth i ni symud tuag at wella hygyrchedd ein gwefan, rydym wedi ychwanegu darn newydd o feddalwedd o’r enw BrowseAloud.

     
    Mae’r adnodd am ddim yma’n cefnogi defnyddwyr drwy ddarllen neu gyfieithu cynnwys y we, gan roi mynediad i bobl i’n gwefan mewn ffordd llawer mwy cyfeillgar i’r defnyddiwr. 
    • Testun i siarad – mae hyn yn golygu bod posib i gynnwys y dudalen gael ei ddarllen yn uchel i chi tra mae’r testun yn cael ei oleuo’n felyn ar yr un pryd. 
    • Cyfieithiad llafar ac ysgrifenedig - mae’r adnodd yma’n gallu cyfieithu tudalennau’r we i 78 o ieithoedd gwahanol ac, ar hyn o bryd, mae’r swyddogaeth testun i siarad yn cynnig 35 o’r ieithoedd hynny, gan gynnwys y Gymraeg.
    • Chwyddo’r testun - ynghyd â dewis i’r testun gael ei ddarllen yn uchel i chi, gallwch chwyddo’r testun i’w wneud yn haws ei ddarllen.
    • Cynhyrchu MP3 – mae’r nodwedd hon yn gallu trawsnewid testun ar dudalen ar y we, neu hyd yn oed mewn cyhoeddiad, i ffeil MP3. Gellir anfon y rhain yn uniongyrchol at ddefnyddiwr ar gais, neu gallwn gadw’r ffeil fel fformat arall.
    • Masg sgrin - mae’r nodwedd hon yn tynnu unrhyw ymyrraeth a sglein oddi ar y dudalen drwy roi masg du dros y rhan fwyaf o’r sgrin, a gadael ffenest ddarllen ar ffurf blwch llythyrau i gynnig ffocws ar ddarnau bychain o’r dudalen.
    • Symleiddiwr tudalen y we - mae’r adnodd hwn yn gallu tynnu popeth ond yr ysgrifen o dudalen ar y we, fel logos, lluniau neu eiconau, drwy eu tynnu allan a dangos testun plaen yn unig. Mae hefyd yn darparu opsiwn gwrthgyferbyniad clir i wrth-droi'r lliwiau.
    • Opsiynau addasu – hefyd gallwch addasu eich gosodiadau ar rai nodweddion, fel cyflymder y llais neu faint chwyddo’r testun. 
    Mae’r holl nodweddion yma ar gael am ddim i bob defnyddiwr, heb fod angen lawrlwytho unrhyw beth. 
    Bydd cael y meddalwedd yma’n help i nifer o bobl sy’n cael problemau o bosib gyda defnyddio gwasanaethau digidol, ond heb fod angen technoleg gyda chymorth, fel darllenwr sgrin. Efallai y bydd yn helpu defnyddwyr y mae’r Saesneg yn ail iaith iddynt hefyd, i weld ein cynnwys wedi’i gyhoeddi, gan oresgyn rhwystrau.
    Mae Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol, wedi croesawu’r datblygiad hwn fel rhan o ymrwymiad parhaus Swyddfa Archwilio Cymru i gynhwysiant digidol a’i gwneud yn haws i bobl ddefnyddio ein gwefan.  
    Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar welliannau eraill i’r wefan er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni’r Canllawiau Hygyrchedd ar gyfer Cynnwys Gwefannau [Agorir mewn ffenest newydd] a argymhellir ar gyfer defnyddwyr. Cyhoeddir rhagor o ddiweddariadau’n fuan.        
    Rhagor o wybodaeth am BrowseAloud [Agorir mewn ffenest newydd], neu rhowch gynnig ar yr adnodd newydd drwy ddewis yr eicon yng nghornel dde uchaf y dudalen.