Cydnabyddiaeth allanol i ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru i amrywiaeth a chydraddoldeb

09 Tachwedd 2020
  • Safle cryf ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn ‘fan cychwyn’ rhagorol

    Yn y flwyddyn gyntaf o fod ar y Mynegai, daethom yn safke 251 allan o 439 o gyflogwyr ledled y DU, gyda sgôr o 66.5, gan hybu Stonewall i gydnabod safle cyntaf rhagorol y sefydliad.

    Ystyrir Mynegai Cydraddoldeb yn y Gwaith Stonewall yn ddull pwerus o feincnodi i helpu i sicrhau bod pob cyflogai lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Gofynnir i gyflogwyr sy’n cymryd rhan ddangos eu gwaith mewn 10 maes o bolisi ac arfer cyflogaeth, yn amrywio o hyfforddiant i ymgysylltu â’r gymuned. Ar yr un pryd, mae staff ar draws pob sefydliad yn llenwi arolwg dienw am eu profiadau yn y gwaith.

    Rydym wedi’n cydnabod am ei hymrwymiad cynyddol i gynhwysiant LGBT+ sydd wedi cynnwys ffurfio ein rhwydwaith LGBT+ ei hun, ‘Spectrum’, yn ogystal â chynnal digwyddiadau mewnol i staff ar bynciau fel cynhwysiant hoyw a thrawsrywiol yn y gweithle a gweithio’n agos gyda’r rhaglen Iris Outreach i gynhyrchu ffilm fer sy’n ymdrin â chael eich derbyn yn y gweithle.

    Dywedodd Steve O’Donoghue, Uwch Swyddog Arweiniol Swyddfa Archwilio Cymru ar LGBT+, wrth ymateb i’r gydnabyddiaeth:

    “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein gosod mor uchel yn ein blwyddyn gyntaf ar y mynegai.  Bydd y broses adborth gyda Stonewall yn werthfawr iawn i’n helpu ni i fwrw ymlaen â’n hymgais i fod yn lle rhagorol i weithio ynddo, sy’n gynhwysol ac yn amrywiol, a lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain. 

    Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru am y cymorth a’r anogaeth a roddwyd i ni, ac rwy’n diolch yn benodol i’n Grŵp Buddiant Cydraddoldeb am eu hymrwymiad a’u gwaith caled er mwyn mynd ati i newid er gwell.”

    Dywedodd Lindsay Foyster, Aelod o’r Bwrdd a’r Swyddog Anweithredol Arweiniol ar Gydraddoldeb:

    “Mae cyrraedd y safle hwn yn y flwyddyn gyntaf yn gyflawniad rhagorol ac mae’n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch iawn ohono. Mae’n bwysig iawn i mi a’r Bwrdd bod yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Mae ein safle ar Fynegai Cydraddoldeb Stonewall yn dangos ymrwymiad clir i hyn ac mae’n fan cychwyn rhagorol i ddatblygu arno yn y dyfodol”

    Bydd staff yn parhau â’r ymrwymiad hwn yn 2017. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio’n agos â rhaglen Iris Outreach i gynhyrchu ffilm ffuglen fer sy’n ymdrin â chynnwys pobl hoyw yn y gweithle

    Os hoffech chi wybod mwy am y mynegai a gweld yr adroddiad sy’n cyd-fynd ag ef, ewch i wefan Stonewall [sy’n agor mewn ffenestr newydd] i gael rhagor o wybodaeth.