Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Codi pryderon nad yw’r gyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yn cael ei blaenoriaethu ac nad oes adnoddau’n cael eu darparu ar ei chyfer

01 Awst 2023
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i gymryd camau gweithredu yn dilyn trychineb Grenfell; fodd bynnag mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y cynllun newydd yn cael ei roi ar waith

    Yn 2017, bu farw 72 o bobl yn Nhân Tŵr Grenfell. Yn dilyn y trasiedi hwn, fe gomisiynodd Llywodraeth y DU Ymchwiliad Hackitt, adolygiad annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân. Datgelodd yr Ymchwiliad faterion difrifol a hirsefydlog gyda’r system diogelwch adeiladau gyfredol. Ers yr adeg hon, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu camau gweithredu i wella’r drefn ar gyfer plismona diogelwch adeiladau i sicrhau ein bod yn osgoi trychineb arall fel Grenfell.

    Mae ein hadroddiad yn dod i’r casgliad, er bod y newidiadau i Reoli Adeiladu a Diogelwch Adeiladau i’w croesawu, nad yw’r rhai sy’n gyfrifol am roi’r newidiadau hyn ar waith mewn sefyllfa dda i’w cyflawni a’u bod yn methu â chyflawni eu rolau estynedig mewn modd effeithiol i sicrhau bod adeiladau yng Nghymru’n ddiogel. Mae ansicrwydd o hyd ynghylch y modd y bydd rhai agweddau ar y gyfundrefn Diogelwch Adeiladau newydd yn cael eu rhoi ar waith, gyda rhai penderfyniadau allweddol heb gael eu gwneud eto. Er bod gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub ddealltwriaeth dda am risgiau i ddiogelwch adeiladau lleol, nid ydynt wedi amlinellu sut y maent yn bwriadu ateb gofynion y Ddeddf.

    Canfuom fod ystod eang o broblemau’n wynebu’r proffesiwn rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau, gan gynnwys heriau sylweddol o ran staffio, gyda gweithlu sy’n heneiddio a chynllunio gwael ar gyfer olyniaeth. Mae’r diffyg buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu’n golygu nad yw gwasanaethau’n gydnerth nac yn addas ar gyfer y dyfodol, gan godi pryderon y bydd awdurdodau lleol yn ei chael yn anodd cyflawni eu cyfrifoldebau’n llwyddiannus.

    Mae gennym bryderon arbennig ynghylch rheolaeth ariannol ar reoli adeiladu gydag arferion cyfredol rhai awdurdodau o bosibl yn anghyfreithlon am nad ydynt yn gweithredu’n unol â rheoliadau a chanllawiau. Er bod y pandemig wedi helpu awdurdodau lleol i foderneiddio’u gwasanaethau, rydym yn pryderu nad yw gwasanaethau’n gydnerth.

    Mae diffyg fframwaith cenedlaethol i fonitro a gwerthuso rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau’n golygu nad yw awdurdodau lleol a phartneriaid yn gweithio’n unol â mesurau deilliant a thargedau y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn gwanhau’r drefn o graffu ar wasanaethau ac nid yw’n helpu i liniaru risg.

    Mae ein hadroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan gynnwys:

    • Darparu mwy o eglurder ynghylch rhoi Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau ar waith a’r disgwyliadau a geir ynddi
    • Sicrhau bod digon o adnoddau i gyflawni’r newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi ar gyfer Diogelwch Adeiladau i leihau’r risgiau i’w rhoi ar waith
    • Cynyddu goruchwyliaeth a rheolaeth ar reoli adeiladu i sicrhau bod system sicrwydd gadarn yn ei lle ar gyfer rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau
    ,
    Roedd tân Tŵr Grenfell yn drasiedi cenedlaethol, ac rydym yn dal i deimlo’i effaith heddiw. Mae fy adroddiad yn amlygu pryderon mawr ynghylch rhoi’r system newydd ar gyfer Diogelwch Adeiladau ar waith. Er ei bod yn galonogol gweld yr awch ac ymrwymiad gan y rhai sy’n gweithio yn y sector, rwy’n pryderu nad oes digon o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r gwasanaethau hyn ar lawr gwlad. Mae’r diffyg cynlluniau cadarn, prosesau penderfynu eglur ac adnoddau digonol yn codi pryderon go iawn na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflawni ac y bydd y problemau y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy’n dal i fodoli. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

    View more