Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19

15 Rhagfyr 2020
  • Ffeithiau a ffigurau ar gyfarpar diogelu personol a chanfyddiadau o'n gwaith maes. 

    Bu llawer iawn o ddiddordeb mewn Cyfarpar Diogelu Personol ers dechrau'r pandemig ac rydym wrthi'n cynnal adolygiad o’r broses o gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yng Nghymru.

    Rydym wedi ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn esbonio ein gwaith. Rydym wedi rhannu rhai canfyddiadau sydd wedi codi yn ystod ein gwaith maes, ynghylch y gwariant ar gyfarpar diogelu personol a’r modd o’i ddosbarthu, y dull o gontractio, a’r trefniadau ar gyfer ei wirio a’i gymeradwyo.

    Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (HSCS) sylwadau ar y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2020 [PDF yn agor mewn ffenest newydd]. Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dystiolaeth am gaffael cyfarpar diogelu personol ym mis Medi 2020 yn rhan o'i ymchwiliad i gaffael cyhoeddus. Ac yn fwy diweddar, mae diddordeb wedi'i ddwysau drwy gyhoeddi dau adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Roedd y cyntaf o’r rhain yn ystyried caffael gan Lywodraeth y DU [yn agor mewn ffenest newydd] ac roedd yr ail yn ystyried yn fwy eang y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol yn Lloegr [yn agor mewn ffenest newydd].

    Mae ein gwaith ni yn cwmpasu'r un meysydd â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol – caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y GIG a gofal cymdeithasol. 

    Mae ein gwaith maes hyd yma wedi canolbwyntio ar gaffael cyfarpar diogelu personol. Mae gennym waith i'w wneud o hyd i gwblhau ein barn ar gaffael a chyflenwi, yn benodol i staff rheng flaen.

    Rydym yn bwriadu cwblhau ein gwaith a chyhoeddi ein canfyddiadau llawn yn y gwanwyn.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Caffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol yn ystod pandemig COVID-19

    View more