Archwilydd Cyffredinol yn rhoi diweddariad ar ei rôl o ran Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

09 Tachwedd 2020
  • Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i adrodd ar sut mae’r trafodaethau â Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynd rhagddynt.

    Nod cyffredinol datganedig Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arfaethedig Llywodraeth Cymru yw “sicrhau fod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus o ran gwella llesiant Cymru yn ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol”.

    Dros yr wythnosau diwethaf mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gael eglurhad ar sut y gall yr adolygiad allanol annibynnol, sy’n cael ei gwblhau gan ei swyddfa ef, ddarparu sicrwydd, mewnwelediad a chefnogi gwelliant yn y modd mwyaf effeithiol, os yw’r Bil yn cael ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr wythnos hon mae’r Archwilydd Cyffredinol a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar Nodyn Polisi sy’n nodi ‘y dylai dyletswydd newydd fod ar yr Archwilydd Cyffredinol sy’n ei gwneud hi’n ofynnol iddo archwilio ac adrodd ar gymhwysiad dulliau llywodraethu wrth osod a hefyd cyflawni amcanion cyrff cyhoeddus’.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol,

    "Rwy’n croesawu cynnig Llywodraeth Cymru o ddyletswydd. Yn fy marn i, mae’r Nodyn Polisi amgaeedig yn gosod rôl i’r Archwilydd Cyffredinol fydd yn darparu lefel resymol o archwilio cyson o ran gosod a chyflawni amcanion llesiant ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd y Nodyn Polisi yn cael ei drosi i fod yn addasiad priodol i’r Bil gan y Llywodraeth, ac rwy’n aros i weld union eiriad y ddyletswydd arfaethedig."

    Mewn gohebiaeth ddiweddar gyda Chadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi cytuno i roi diweddariad ar sut roedd y trafodaethau â’r Llywodraeth yn mynd rhagddynt. Mae’r llythyr bellach wedi ei gyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ac mae copi yma hefyd.
     

    Archwilydd Cyffredinol Cymru, llythyr yn trafod cynnydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol [PDF 147KB Agorir mewn ffenest newydd]