Archwilydd Cyffredinol yn rhoi amod ar gyfrifon tri o gyrff y GIG yng Nghymru

09 Tachwedd 2020
  • Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cymeradwyo’r olaf o'i 10 barn archwilio ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14.

    Ac, am y tro cyntaf ers ad-drefnu’r GIG yn 2009-10, mae wedi rhoi amod ar ei farn ar gyfrifon tri Bwrdd Iechyd am dorri eu terfynau gwario cymeradwy – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    Heddiw rwyf wedi cymeradwyo'r olaf o 10 o gyfrifon y GIG ar gyfer 2013-14 – gyda thri ohonynt yn amodol. Mae hyn yn rhywbeth na welwyd ei debyg yng Nghymru o’r blaen ac yn rhywbeth y byddaf yn sôn amdano mewn mwy o fanylder yn yr Hydref pan fyddaf yn cyhoeddi fy adroddiad blynyddol ar gyllid y GIG.

    Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd cyrff y GIG nad oedd yn gallu ymdopi o fewn eu hadnoddau ariannol dyranedig yn derbyn cyllid diwedd blwyddyn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, y flwyddyn hon nid oedd yr adran Iechyd wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gyfrif am orwario pob un o'r Byrddau Iechyd.

    Yn ogystal â’i dair barn archwilio amodol, mae Huw Vaughan Thomas unwaith eto'r flwyddyn hon hefyd wedi adrodd ar ddau Fwrdd Iechyd arall sydd ddim ond wedi llwyddo i weithredu o fewn eu terfynau adnoddau o ganlyniad i dderbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn. Y Byrddau Iechyd hynny yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi adrodd ar fethiannau'r pedwar Bwrdd Iechyd i gael cymeradwyaeth gan y Gweinidog Iechyd ar gyfer eu cynlluniau tair blynedd integredig newydd, yn unol â’r gofyn ers 1 Ebrill 2014 yn sgil Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Y Byrddau Iechyd hynny yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

    Mae’r materion hyn hefyd yn debygol o gael goblygiadau ar farn archwilio'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon cryno GIG Cymru sy'n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru, pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cwblhau ei waith archwilio arnynt y mis nesaf.