Archwilydd Cyffredinol yn derbyn CBE yn rhestr anrhydeddau Pen-blwydd y frenhines

09 Tachwedd 2020
  • Am wasanaethau i archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd yng Nghymru

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, wedi’i wobrwyo â CBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.

    Mae wedi cael ei wneud yn Gomander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i archwilio cyhoeddus ac atebolrwydd yng Nghymru.

    Bydd Huw Vaughan Thomas yn ymddeol fis Gorffennaf ar ôl bron i 8 mlynedd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae wedi treulio bron i 5 degawd yn gweithio o fewn gwasanaeth cyhoeddus, gyda swyddi blaenorol yn cynnwys o fewn adran Cyfarwyddwr Cyflogaeth Cymru ac fel Prif Weithredwr cynghorau Gwynedd a Sir Ddinbych.

    Dywedodd Yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas heddiw:

    “Yn fy 48 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, bod yn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw’r uchafbwynt mewn llawer o ffyrdd. Nid dim ond anrhydedd personol yw cael fy ngwobrwyo â CBE, ond mae’n deyrnged i egni ac ymrwymiad staff Swyddfa Archwilio Cymru, a’r gefnogaeth amhrisiadwy maent wedi’i gynnig i mi trwy gydol fy nghyfnod yma.”