Archwilydd Cyffredinol newydd yn dod i'w sywdd

09 Tachwedd 2020
  • Mae Adrian Crompton wedi cymryd drosodd yr awenau fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan olynu Huw Vaughan Thomas a ymddeolodd yr wythnos ddiwethaf.

    Penodiad y Goron yw'r swydd, sydd am dymor o wyth mlynedd, ac mae'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, bydd Adrian hefyd yn Brif Weithredwr Swyddfa Archwilio Cymru. 
    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio i gefnogi'r Archwilydd Cyffredinol fel ceidwad sector cyhoeddus Cymru. Ei nod yw sicrhau bod pobl Cymru'n gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n ddoeth neu beidio a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau.
    Cyn iddo gael ei benodi, bu Adrian Crompton yn Gyfarwyddwr Busnes yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a bu hefyd yn gweithio ar draws y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn cefnogi datblygiad sefydliadau gwleidyddol a llywodraethu da.
    Meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: 
    Mae'n anrhydedd ac yn fraint wirioneddol ymgymryd â'r swydd bwysig hon yng Nghymru. Wrth olynu Huw Vaughan Thomas, mae'r esgidiau sydd gennyf i'w llenwi yn fawr, ond edrychaf ymlaen at adeiladu ar ei waith ardderchog ef. 
    Gwn y byddaf yn derbyn cymorth gan bobl dalentog yn Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r sector cyhoeddus yn gweithredu mewn amseroedd heriol, ac felly mae hi'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n troi'r golau ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ac ar y mannau lle mae angen i wasanaethau wella. Dyna ein cyfraniad ni i wneud Cymru yn well lle ac rwyf yn edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith."
    Meddai Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru:
    "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Adrian. Mae'n amlwg y bydd ef yn dod â phersbectif ac egni newydd i fynd â'r sefydliad drwy gyfnod cyffrous o newid, fydd yn cynyddu effaith gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ymhellach.