Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi'i Adroddiad Gwella Blynyddol 2012-13 ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

09 Tachwedd 2020
  • Mae rhai gwasanaethau'n gwella, ond mae gwendidau llywodraethu difrifol yn bryder mawr ac yn galw am arolygiad llywodraethu corfforaethol.

    Heddiw cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan ddweud: 'Er bod gwendidau yn ei drefniadau hunanwerthuso, ac er bod gwelliant mewn rhai meysydd blaenoriaeth allweddol yn araf, mae'r Cyngor wedi gwneud rhai gwelliannau i'w wasanaethau. Fodd bynnag, ers dod i'r casgliad ym mis Medi 2012 bod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â'r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn ystod 2012-13 cyn belled â'i fod yn cyflymu'r gwaith o gyflwyno gwelliannau, rydym wedi canfod diffygion difrifol yn ei drefniadau llywodraethu, ac o ganlyniad byddaf yn cynnal arolygiad llywodraethu corfforaethol arbennig o'r Cyngor yn ddiweddarach eleni.

    Datganiad i'r wasg

    Heddiw cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

    Dyewdodd: 'Er bod gwendidau yn ei drefniadau hunanwerthuso, ac er bod gwelliant mewn rhai meysydd blaenoriaeth allweddol yn araf, mae'r Cyngor wedi gwneud rhai gwelliannau i'w wasanaethau. Fodd bynnag, ers dod i'r casgliad ym mis Medi 2012 bod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â'r gofyniad i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn ystod 2012-13 cyn belled â'i fod yn cyflymu'r gwaith o gyflwyno gwelliannau, rydym wedi canfod diffygion difrifol yn ei drefniadau llywodraethu, ac o ganlyniad byddaf yn cynnal arolygiad llywodraethu corfforaethol arbennig o'r Cyngor yn ddiweddarach eleni.'

    Cyhoeddodd Archwilydd Penodedig y Cyngor Adroddiad Er Budd y Cyhoedd ym mis Mawrth 2013 ar fethiannau mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd yn y prosesau a fabwysiadwyd gan y Cyngor i bennu cyflog prif swyddogion. Daeth yr Archwilydd Penodedig i'r casgliad bod y Cyngor wedi 'gweithredu'n anghyfreithlon mewn perthynas â'r broses hon ar gyfer pennu cyflogau', a gwnaeth bum argymhelliad. Mae'r Cyngor yn cynnal ei ymchwiliad disgyblu ei hun o ganlyniad i'r adroddiad, er nad yw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan fod ymchwiliad Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn parhau.

    Er bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cynllunio gwelliannau o dan y Mesur Llywodraeth Leol yn 2012-13 ac wedi gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, daeth yr Archwilydd Cyffredinol i'r casgliad hefyd bod y Cyngor wedi methu cyflawni rhai o'i ddyletswyddau cynllunio gwelliannau ar gyfer 2013-14. Mae cynnydd y Cyngor yn erbyn argymhellion rheoleiddwyr yn gymysg ac yn araf yn aml. Mae'n galonogol bod y Cyngor wedi derbyn bod angen cryfhau trefniadau atebolrwydd i reoli a chyflawni'r canfyddiadau o waith archwilio ac arolygu, ond nid yw'r trefniadau wedi'u rhoi ar waith eto. 

    Er bod y Cyngor wedi ymateb hyd yma i'r heriau ariannol sydd wedi'i wynebu ac wedi sicrhau arbedion cyn bod eu hangen, nid oes ganddo ddull trylwyr o ddatblygu achosion busnes nac ar gyfer pennu, darparu, monitro a gwerthuso arbedion er mwyn ymateb i ofynion a heriau'r dyfodol.

    Mae perfformiad y Cyngor wrth wella gwasanaethau yn 2011-12 wedi bod yn gymysg ac mae wedi bod yn araf wrth fynd i'r afael â rhai meysydd blaenoriaeth allweddol. Mae'r Cyngor, gyda'i bartneriaid, wedi parhau i wneud cynnydd da wrth wneud bwrdeistref sirol Caerffili yn lle mwy diogel i fyw ynddo. Mae'r gwasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn ddigonol gyda digon o bosibiliadau ar gyfer gwella, ac mae Gwasanaeth Cyflawni Addysg newydd wedi'i greu ar gyfer y De-ddwyrain ac mae'n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad mewn ysgolion. Er bod y Cyngor yn darparu sianeli amrywiol i ddinasyddion allu defnyddio ei wasanaethau, mae wedi bod yn araf yn gwella'r ffordd y mae'n ymgysylltu â'i ddinasyddion. Mae ymdrechion y Cyngor i adfywio a chefnogi'r economi wedi cael effaith gymysg, felly hefyd ei berfformiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwendidau allweddol hefyd yn y ffordd y mae'r Cyngor yn rheoli ei bobl, gwybodaeth ac asedau.

    Mae'r Cyngor wedi cyflwyno trefniadau rheoli perfformiad ac mae ganddo drefniadau effeithiol i gasglu, cofnodi a monitro gwybodaeth am berfformiad. Fodd bynnag, mae angen iddo fynd i'r afael â gwendidau yn ei ddull o hunanwerthuso a herio, ac adrodd ac ystyried ei berfformiad mewn ffordd fwy tryloyw a chytbwys.

    O ganlyniad i'w ganfyddiadau, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud pedwar argymhelliad statudol i'r Cyngor y mae'n rhaid iddo ymateb iddynt o fewn 30 diwrnod, sef:

    As a result of his findings, the Auditor General makes four statutory recommendations to the Council to which it must respond within 30 days. These are:

    1. Mynd i'r afael â'r pum argymhelliad a wnaed gan yr Archwilydd Penodedig yn ei Adroddiad er Budd y Cyhoedd, dyddiedig Mawrth 2013.
    2. Mynd i'r afael â chynigion ar gyfer gwella sydd heb eu cyflawni a nodwyd yng ngwaith yr Archwilydd Cyffredinol hyd yma.
    3. Mynd i'r afael â'r tri argymhelliad a wnaed yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, Gwerthuso Cyfraniadau Gwasanaethau Cyhoeddus i'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, dyddiedig Gorffennaf 2013.
    4. Rhoi trefniadau ar waith sy'n galluogi'r Cyngor i ffurfio, craffu ar a chymeradwyo ei amcanion gwella yn brydlon i fodloni ei rwymedigaethau statudol o dan y Mesur.

    O ganlyniad i ganfyddiadau'r Archwilydd Penodedig, a'r materion llywodraethu ehangach a nodwyd yn ei Adroddiad Gwella Blynyddol, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu cynnal arolygiad arbennig o'r Cyngor. Bydd yr arolygiad yn canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu a phenderfynu'r Cyngor, a bydd yn asesu'r cynnydd y mae wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Penodedig yn ei Adroddiad er Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.