Archwilio Cymru yn lansio strategaeth newydd uchelgeisiol

Daw'r strategaeth bum mlynedd newydd hon ar adeg dyngedfennol i wasanaethau cyhoeddus
Heddiw, mae Archwilio Cymru wedi lansio ei strategaeth newydd feiddgar wrth iddo amlinellu ei weledigaeth pum mlynedd i sbarduno gwelliant ac ategu gwasanaethau cyhoeddus Cymru wrth iddynt addasu i heriau a chyfleoedd byd sy'n newid.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar y swyddogaeth hanfodol sydd gan archwiliad sector cyhoeddus o ran ategu sefydliadau i gyflawni dros gymunedau Cymru, drwy ei gweledigaeth i:
- Roi Sicrwydd i bobl Cymru fod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda.
- Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gwrdd ag anghenion pobl.
- Ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Dros y pum mlynedd nesaf bydd ffocws ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg sydd wedi dod i'r amlwg drwy waith Archwilio Cymru, gan gynnwys:
- Yr ymateb i'r pandemig – gan gynnwys y costau uniongyrchol ac etifeddol a'r effaith economaidd barhaus ar gyllid cyhoeddus.
- Byd sy'n newid – heriau newid yn yr hinsawdd, creu cymdeithas decach, fwy cyfartal a newidiadau cyfansoddiadol a pherthnasoedd newydd.
- Trawsnewid gwasanaethau – dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau, cynllunio ac atal a defnyddio data a thechnoleg yn y tymor hir.
Mae'r strategaeth hefyd yn nodi tri maes ffocws lle bydd Archwilio Cymru yn blaenoriaethu camau gweithredu, ochr yn ochr â'i gyfrifoldebau statudol. Y rhain yw:
- Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel;
- Dull wedi'i dargedu sy’n effeithiol o ran cyfathrebu a dylanwadu.
- Model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein strategaeth newydd yn dod ar adeg dyngedfennol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ni fydd y blynyddoedd i ddod yn darparu llawer o seibiant ar gyfer cyllid cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau ar adeg pan fo'r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu. Mae gan archwiliad gwasanaethau cyhoeddus swyddogaeth ganolog i'w chwarae o ran sicrhau bod arian trethdalwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn cael yr effaith gywir ar bobl Cymru.
Ni fu erioed amser pwysicach i archwilio cyhoeddus yng Nghymru nag ar hyn o bryd. Mae'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau yng Nghymru yn gymhleth, yn gydgysylltiedig ac yn hirsefydlog. Mae ein strategaeth newydd yn nodi sut y bydd Archwilio Cymru yn ymateb i'r heriau hyn – drwy ddatblygu ein ffocws archwilio, ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg, gwneud mwy o ddefnydd o'n mewnwelediadau ariannol a chynnal ffocws di-baid ar wella ansawdd ac effaith ein gwaith.
