Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Allwch chi fod yn ein Hyfforddai Graddedig nesaf?

29 Medi 2023
  • Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen ar agor:

    Ydych chi newydd orffen yn y brifysgol ac yn chwilio am eich gyrfa nesaf? Neu ar hyn o bryd yn astudio ac yn angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus?

    Yna darllenwch ymlaen i glywed am ein rhaglen hyfforddi graddedigion o'r radd flaenaf a ariennir yn llawn!

    Mwy am y swydd

    Drwy ddewis rhaglen Archwilio Cymru, byddwch yn astudio i fod yn gyfrifydd siartredig, wrth ymchwilio i sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.

    Byddwch hefyd yn cael chwarae rhan hanfodol wrth archwilio dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau Cymru.

    Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!

    Pwy yw Archwilio Cymru?

    Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Ein nod yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda, egluro sut mae'n cael ei ddefnyddio ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.

    Trwy ymuno â ni, byddwch yn buddsoddi mewn gyrfa a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol.

    Mae rhywfaint o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar ddiogelwch adeiladau, cynhwysiant digidol, COVID-19 a newid hinsawdd.

    Pam dewis rhaglen Archwilio Cymru?

    Mae canlyniad pàs arholiad ein rhaglen yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ICAEW.

    Mae rhai o'n graddedigion yn enillwyr gwobrau rhyngwladol hyd yn oed!

    Rydyn ni'n gofalu am ddysgu a datblygu ein hyfforddeion – dyna pam rydyn ni'n talu holl gostau aelodaeth myfyrwyr ICAEW, hyfforddiant, costau arholiadau a deunyddiau astudio.

    Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi'n llawn wrth i chi gydbwyso gofynion astudio a'ch rôl ymarferol fel hyfforddai.

    Mae gennym hefyd restr drawiadol o fanteision:

    • 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus)
    • Pecyn cyflog hael
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Disgowntiau siopa
    • Tanysgrifiadau proffesiynol

    Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn

    Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid y dyfodol?

    Darganfyddwch mwy am y rhaglen ar ein gwefan.

    Byddwch yn wybodus, bod dau bwynt mynediad i'r rhaglen, Ebrill 2024 ar gyfer ein hymgeiswyr sydd eisoes wedi graddio a Gorffennaf 2024 ar gyfer y rhai sydd eto i raddio.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Medi 2024.