Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Adroddiad Cydraddoldeb 2024-25

21 Hydref 2025
  • Mae ein hadroddiad yn edrych ar y cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb

    Nodir yn ein hadroddiad Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod o bedair blynedd 2022 i 2026 [agorir mewn ffenestr newydd].

    Trwy ein gwaith archwilio, gallwn annog newidiadau buddiol o ran cydraddoldeb, ac mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn un o'r pedair thema allweddol sy'n llywio ein Blaenraglen waith archwiliad perfformiad ar gyfer 2023-2026 a gyhoeddwyd [yn agor mewn ffenestr newydd].

    Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth pawb, ein staff ein hunain a'r rhai y deuwn i gysylltiad â hwy yn ystod ein gwaith.

    Yn 2024-25, fe wnaethom gyflwyno nifer o archwiliadau ac astudiaethau a oedd yn ymdrin ag ystyriaethau cydraddoldeb ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella.

    Mae canlyniadau arolwg staff 2024 yn dangos bod mwyafrif helaeth o staff yn teimlo bod Archwilio Cymru wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol sy'n parchu gwahaniaethau unigol. 

    Rydym hefyd yn falch bod ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau a bod cyfran y staff iau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen i ni barhau â'n gwaith ar gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn y tymor hwy. 

    Mae ein grŵp buddiannau cydraddoldeb gweithwyr, Pawb, yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chydweithwyr ledled Archwilio Cymru i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, bod pob gwahaniaeth yn cael ei barchu, a phob cyfle yn hygyrch.

    Tua diwedd 2024-25, gwnaethom ddechrau adolygiad mewnol, gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr allanol, i ddadansoddi pa mor effeithiol yw ein cyfathrebu presennol wrth ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a datblygu canllaw i helpu i ymgorffori cynhwysiant ymhellach trwy ein prosesau cyfathrebu.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Adroddiad Cydraddoldeb 2024-25

    Gweld mwy