Shared Learning Seminar
Ydych chi yn y sefyllfa orau i gyflawni? Seminar Rhannu Dysgu ar Reoli a gwella gweithrediadau busnes

Cynhaliom seminar am ddim gyda Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac Arfer Da Cymru ar reoli a gwella gweithrediadau busnes.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae pob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus yn ailystyried y ffordd y maent yn ailgynllunio a darparu gwasanaethau mewn ymateb i heriau ariannol a strwythurol a heriau'n ymwneud â chwsmeriaid, polisïau, gallu ac adnoddau. Wrth wneud hynny, mae angen i sefydliadau ystyried effeithiau gweithredol y penderfyniadau a wnânt ar eu gallu i gynllunio a darparu'r hyn sydd ei angen.

Mae systemau rheoli prosesau a gweithrediadau da yn rhoi sylfaen gadarn i sefydliad wneud newidiadau. P'un a ydynt yn wynebu heriau fel:

  • gweithredu mentrau polisi newydd
  • trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i gwsmeriaid, er enghraifft, drwy sianeli digidol
  • newid strwythurau sefydliadol neu fodelau busnes, neu
  • ymateb i newidiadau mewn galw cwsmeriaid neu ddatblygu ffyrdd o weithio drwy wella'n barhaus.

Mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sicrhau bod ganddynt y gallu rheoli prosesau a gweithrediadau angenrheidiol i ateb yr heriau hyn.

I bwy oedd y digwyddiad?

Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol:     

  • gweithredu polisi
  • newid sianeli
  • trawsnewid busnes
  • rheoli rhaglenni a phrosiectau
  • rheoli galw, a
  • rheoli newid.

Cyflwyniadau 

  1. Mae a wnelo rheoli prosesau a gweithrediadau â rhedeg eich busnes [PDF 1.8MB Agorir mewn ffenest newydd]  - Alec Steele, Swyddfa Archwilio Genedlaethol 
  2. Rhannu profiadau o ddiwylliant arwain sy'n canolbwyntio ar welliant [PDF 728KB Agorir mewn ffenest newydd] - John Knowles, Adran Addysg 
  3. Uno sefydliadau: Heriau a chyfleoedd [PDF 2.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Howard Davies, Cyfoeth Naturiol Cymru 

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan