Cynhadledd Dyfodol Diamod 2025

02 Hydref 2025
Rhag 16 Dydd Mawrth
09:00
16:00
  • Royal Welsh College of Music and Drama
  • North Rd, Cardiff
  • CF10 3ER

About Cynhadledd Dyfodol Diamod 2025

  • Rydym yn ysu am weld Dyfodol Diamod 2025!

    A oes gennych chi ddiddordeb mewn canfod mwy am yr heriau presennol sy'n wynebu darparu gwasanaethau cyhoeddus? Ydych chi eisiau clywed sut y gallem oresgyn yr heriau hyn? Ydych chi eisiau rhwydweithio a dysgu gan eich cyfoedion? 

    Ymunwch â'n cynhadledd Dyfodol Diamod 2025! 

    Byddwch yn clywed gan rai arweinwyr diwydiant ac yn ymuno â sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a pha mor hanfodol yw gweithwyr cyllid proffesiynol o ran ategu atebion arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau. Byddwch hefyd yn ymuno â sesiynau sydd â'r nod o'ch arfogi â'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus. 

    Yn dilyn adborth o'r llynedd, eleni bydd amser penodol ar gyfer rhwydweithio. 

    Dal ddim yn siŵr a ddylech chi ymuno? 

    Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau neu sôn am bryderon am waith yn y sector cyhoeddus yn yr hinsawdd sydd ohoni. Gofynnwch eich cwestiynau i'n siaradwyr a fydd yn eu hateb yn y fan a'r lle. 

    Daw'r gynhadledd i chi gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru. 

    Sut wyf i'n mynegi fy niddordeb?

    Os gwelwch yn dda, cwblhewch eich manylion ar y ffurflen archebu sydd ar waelod y dudalen hon. Pan fyddwch yn ymrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg Digwyddiadau.

    Byddwn yn anfon manylion ar sut i ddewis eich gweithdai yn yr wythnosau nesaf. 

    Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 5 diwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost gwaith wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.

  • 51.4867367, -3.1843767

This event is invite only. If you want to attend please contact events@audit.wales