
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Asesiad Strwythuredig 2022
-
Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE – y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a’r…
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Adroddiad Archwilio Blynyddol…
-
Cyngor Bro Morgannwg – Cymhwyso’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy mewn…
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adroddiad Archwilio…
Mae’r Cod yn rhagnodi’r ffordd y dylai archwiliadau a swyddogaethau eraill yr Archwilydd Cyffredinol gael eu gweithredu, ac mae’n corffori beth sy’n ymddangos i’r Archwilydd Cyffredinol fel arfer proffesiynol gorau.
O dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, gall yr Archwilydd Cyffredinol baratoi cynllun i ddirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfan gwbl neu’n rhannol i weithiwr cyflogedig Swyddfa Archwilio Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Swyddfa Archwilio Cymru. Ni chaiff unrhyw berson na gweithiwr dderbyn awdurdod o dan y Cynllun oni bai bod y gweithiwr neu’r person yn cytuno i gydymffurfio gyda’r Cod newydd.
Adolygir y Cod yn flynyddol yn unol ag ymrwymiad a wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol i Bwyllgor Cyllid y Senedd, ac yn 2021 bydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried canlyniad ein hymgynghoriad Cyflawni Ymchwiliadau'r Archwilydd Cyffredinol, 2020-25.
Related News
