Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cael ei ystyried yn berson penodedig. Mae hwn yn golygu gall gweithiwr godi pryder am gamwedd yn y gweithle i’r Archwilydd Cyffredinol, yn ogystal â, neu yn lle, ei gyflogwr.
Ar yr amod fod pryderon a godwyd yn ymwneud ag un neu mwy o’r materion canlynol, gall weithiwr elwa o amddiffyniad rhag niwed gan ei gyflogwr:
cynnal busnes cyhoeddus yn briodol; neu
gwerth am arian, twyll a llygredd mewn cysylltiad â darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn adolygu'r holl ddatgeliadau a geir, ond nid yw'n ofynnol iddynt gynnal ymchwiliad i'r rhain.
Darganfyddwch mwy a chewch ragor o wybodaeth a chyngor ar chwythu'r chwiban yn ein taflen: Ydych chi’n pryderu am gamweddau neu gamymarfer yn y gweithle? [agorir mewn ffenestr newydd]
I wneud datgeliad i'r Archwilydd Cyffredinol o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, cysylltwch â ni drwy:
E-bost: chwythu.chwiban@archwilio.cymru
Rhif ffôn: 029 20 320 522
Drwy'r post: Swyddog Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd Archwilio Cymru 1 Cwr y Ddinas Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.