Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Ar 3 Chwefror 2022, cymerodd pedwar o Brentisiaid Archwilio Ariannol ail flwyddyn Archwilio Cymru ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru (adran Cyfrifyddiaeth).
Dyma'r ail dro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ar-lein (oherwydd COVID-19) ac felly roedd yn fraint cystadlu mewn ffordd unigryw ac arloesol.
Rydyn ni wedi gofyn rhagor i'n prentisiaid am y gystadleuaeth, a sut ganfuon nhw’r diwrnod.
Beth oedd y meini prawf mynediad ar gyfer y gystadleuaeth?
I gystadlu yn y gystadleuaeth, roedd angen i bob un o aelodau'r tîm fod yn gymwys mewn AAT ar Lefel 2.
Faint o dimau oedd a beth oedd angen i chi ei wneud?
Cymerodd saith tîm o bob rhan o Gymru ran ac roedd pump tasg i'w cwblhau yn ystod y ddwy awr a neilltuwyd.
Profodd y tasgau hyn ein gallu i:
- Ddadansoddi deunyddiau/data adnoddau a dethol gwybodaeth allweddol
- Cyfathrebu mewn ffordd broffesiynol a chymwys
- Gweithio gyda'n gilydd fel tîm
- Paratoi ac archwilio cofnodion ariannol
- Prosesu trafodion drwy gyfrif cyfriflyfr/cyfrif rheoli cyffredinol
- Cysoni cyfrifedau banc â'r llyfr arian parod
- Cywiro camgymeriadau cyfrifyddu gan ddefnyddio cyfnodolyn
Beth ddysgoch chi o'r diwrnod?
Fe'n rhannwyd yn ddau dîm gwahanol. Roedd Tîm 1 yn dîm holl-Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys Catrin Round, Daron Stewart-Jones ac Eleri Davies.
Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i atgoffa ein hunain o'r sgiliau a ddysgwyd gennym y llynedd, ac roedd yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom astudio cyn y gystadleuaeth (er mwyn cadw'r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod Lefel 2 AAT).
Roedd gweithio fel tîm yn bwysig iawn gan fod angen rhannu'r tasgau rhwng yr unigolion yn y grwpiau i'w cwblhau’n brydlon. Penderfynom ni rannu'r tasgau yn seiliedig ar y gwahanol gryfderau a oedd gennym ni o fewn ein grŵp. Gweithiodd hyn yn dda oherwydd ein bod wedi llwyddo i gwblhau'r gwaith sydd ei angen gyda pheth amser i'w sbario ac felly, cawsom gyfle i wirio gwaith ein gilydd.
Roedd Anna Williams-Hayes o Archwilio Cymru yn nhîm 3 gyda Phil Parsons a Jon Berrow o wahanol sefydliadau.
Roedd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfle cyffrous i ni arddangos ein galluoedd cyfrifyddu a'n gwybodaeth sylfaenol a gawsom yn flaenorol yn AAT Lefel 2. Gan wybod bod rhannu cyfrifeg yn gymharol newydd i Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gwnaethom ganolbwyntio yn bennaf ar gyflwyno ein hunain mewn modd proffesiynol, ar gyfathrebu'n effeithiol ac ar waith tîm cadarn yn ogystal â dangos ein dealltwriaeth o derminoleg gyfrifyddu allweddol a sgiliau rhifiadol.
Roedd strwythur y gystadleuaeth yn ffordd wych o brofi'n gynhwysfawr ein gwybodaeth am gadw llyfrau, trafodion busnes a chyfrifoldebau moesegol. Gwnaethom hefyd fwynhau dangos ein cryfderau fel tîm yn ogystal â chydweithio i helpu i ategu’n gwendidau unigol.
Yn gyffredinol, roedd y profiad o gystadlu ar ran ein coleg yn fraint a bydd yn fuddiol am gyfnod amhenodol i'n gyrfaoedd ym maes cyllid yn y dyfodol. Roeddem wrth ein bodd yn cwrdd â'r grwpiau eraill y mae pob un yn gweithio yn y sector ariannol, hyd yn oed os mai dim ond yn rhithiol oedd.
Ar ôl cyflwyno ein gwaith, fe'i hanfonwyd i gael ei farcio gan weithwyr ariannol proffesiynol a byddwn yn darganfod y canlyniadau ym mis Mawrth!