Rhan 1: Mwy na dim ond problem tai – cost gwneud cam â phobl sy’n cysgu allan yng Nghymru

05 Tachwedd 2020
  • Pan oeddwn yn gweithio ym maes digartrefedd byddwn yn aml yn clywed y cwestiwn ‘Pam fod pobl yn dod yn ddigartref?’

    O’m profiad i, mae pobl yn gofyn y cwestiwn hwn gydag un neu ddau gymhelliad. Ar y naill law fe’i gofynnir â diddordeb go iawn i wybod (a deall) pam fod rhai pobl yn diweddu’n ddigartref a bod eraill ddim. Ar y llaw arall, fe’i codir fel cwestiwn â thinc sydd bron yn feirniadol, sef os ydych yn ddigartref yna eich bai chi ydyw ac mae angen i chi ddod at eich coed a challio.

     

    Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ar ddiwedd y mis sy’n ystyried sut y mae cyrff cyhoeddus yn helpu pobl sy’n cysgu allan. Rhan allweddol o’n gwaith fu gofyn yr union gwestiwn hwn – Pam fod pobl yn diweddu mewn sefyllfa lle maent yn cysgu allan?

    Fe siaradom ni gyda phobl ddigartref i gael gwybod eu hanes. Roedd yr hyn a glywsom yn aml yn stori a oedd yn peri gofid am y modd yr oedd pobl ifanc iawn yn aml wedi cael eu gadael i lawr gan deuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus ac wedi cael eu rhoi mewn perygl.

    Er enghraifft, roedd y bobl y siaradom ni gyda hwy yn aml wedi profi trais domestig a/neu rywiol yn y teulu neu ar yr aelwyd. Roedd nifer hefyd wedi cael eu cam-drin yn gorfforol neu’n rhywiol gartref. Roeddent yn aml yn amlygu’r ffaith eu bod wedi profi problemau camddefnyddio sylweddau ac yn aml wedi byw mewn tlodi o oedran ifanc. Roedd llawer wedi bod yn y system ofal a/neu wedi profi anawsterau yn yr ysgol.

    Pam fod hyn yn bwysig? Wel, i rai pobl, fe wnaeth y profiadau hyn eu rhoi mewn perygl o oedran cynnar a pheri iddynt fod yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol tra’r oeddent yn dal yn eu harddegau. Roedd un rhan o bump wedi bod yn y carchar neu mewn sefydliad troseddwyr ifainc, ac roedd nifer wedi cael eu cyhuddo o gyflawni trosedd treisgar.

    Meddyliwch am dyfu dan yr amgylchiadau hyn a sut y byddech chi’n ymdopi. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau o bwys sy’n dylanwadu ar weddill eich bywyd, eich cyfleoedd a’ch rhagolygon. Canfuom ei fod wedi cyfrannu ac arwain at eu tynged o ran cysgu ar y stryd. Mae’n peri gofid bod pobl sy’n profi’r materion hyn yn aml yn debygol o fagu eu plant eu hunain ac atgyfnerthu eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod arnynt hwy.

    Dengys ein hadroddiad y bydd atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod mewn un genhedlaeth, neu leihau eu heffeithiau, yn cael effaith gadarnhaol ar gysgu allan. Bydd hefyd yn arwain at arbedion ariannol sylweddol i wasanaethau cyhoeddus.

    Gan ddefnyddio astudiaethau achos, fe wnaethom ystyried pa wasanaethau cyhoeddus sy’n ymateb yn rheolaidd i bobl sy’n cysgu allan. Er enghraifft, yr heddlu, ysbytai, gweithwyr iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol, sefydliadau tai a’r llysoedd. Gyda’i gilydd, fe wnaethom nodi’r gost bosibl i bwrs y wlad wrth ymateb i un cyfnod argyfyngus o gysgu allan – ond gan beidio â mynd i’r afael â hynny.

    Mae hyn yn arian wedi’i wastraffu.

    Mae adweithio i gysgu allan yn datrys problem uniongyrchol – arestio am ymddygiad troseddol, rhoi cymorth meddygol neu fynediad at driniaeth ar gyfer dibyniaeth ar sylwedd – ond nid yw byth yn mynd i’r afael â’r materion sylfaenol a achosodd i rywun gysgu allan.

    Felly, beth y mae angen iddo newid? Darllenwch ein hadroddiad, a gyhoeddir ar ddiwedd y mis, i gael gwybod.

    Am yr awdur

    Nick Selwyn

     

    Rheolwr Llywodraeth Leol yn Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan a’n gwaith gydag Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.