Pobl

Mae pobl yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus. Pan fyddwn yn siarad am weddnewid prosesau busnes a modelau gwasanaeth, yr hyn rydym yn siarad amdano go iawn yw newidiadau i’r ffordd mae pobl yn gweithio. Mae dod o hyd i ffyrdd o alluogi pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus i newid yn rhan allweddol o waith i wella gwasanaethau cyhoeddus.

Ond mae’r gweithlu’n wynebu her fawr ar adeg pan fo adnoddau’n prinhau. Prif gost sefydlog y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yw’r gyflogres. Er mwyn i wasanaethau cyhoeddus leihau eu costau, bydd angen iddynt ystyried sut y gallant leihau eu costau staffio neu weithio gyda’r staff i wella effeithiolrwydd a darpariaeth gwasanaethau.

Mae’r canllawiau yn yr adran hon yn ystyried sut y gall gwasanaethau cyhoeddus reoli eu gweithlu’n well er mwyn annog gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ac amgylchedd gweithio mwy cadarnhaol i’r staff eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymgysylltu â staff, rheoli presenoldeb staff, iechyd galwedigaethol ac amgylcheddau gweithio hyblyg.