• Uwch-Archwilwyr Wrth Gefn Perfformiad
    £49,600 (band cyflog 4)
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ein swydd yn Archwilio Cymru yw archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut y maent yn sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Ein nod yw i:

  • Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl 
  • Ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.

Fel rhan o'n gwaith, rydym yn awyddus i ddefnyddio Archwilwyr Wrth Gefn i ddarparu cymorth tymor byr, ad hoc wrth gynnal ein harchwiliadau perfformiad.

Daw ein cydweithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a'ch swydd chi fydd cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau perfformiad lleol a chenedlaethol mewn cyrff archwiliedig. 

Bydd angen i chi fod â sgiliau dadansoddi profedig y gellir eu cymhwyso ar draws ystod o brosiectau archwilio a bydd angen i chi allu rheoli galwadau sy'n cystadlu ar eich amser. Yn ogystal â hyn, rydym yn chwilio am rywun sydd â'r gallu i ddysgu'n gyflym a chymhwyso'r dysgu hwnnw i'r heriau y mae cyrff y sector cyhoeddus yn eu hwynebu o fewn cyd-destun archwilio.  Rhaid i chi allu gweithio'n annibynnol a hefyd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol a chael dealltwriaeth fanwl o sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yng Nghymru.

Mae lleoliad ein swyddi Uwch-Archwilwyr Wrth Gefn yn hyblyg ac mae cyfleoedd ar gael ledled Cymru.

Oherwydd natur y gwaith sydd ar gael, cynigir y swyddi hyn ar sail wrth gefn yn unig, ni allwn roi unrhyw oriau penodol o waith ac nid oes rheidrwydd ar ymgeiswyr llwyddiannus i dderbyn gwaith. 

Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn Archwilio Cymru yn diffinio'r ffordd rydym yn gweithio a sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein nodau. Mae ein holl bobl wedi ymrwymo'n llwyr i ddangos ein gwerthoedd a'n hymddygiadau fel y gallwn weithio'n effeithiol gyda'n gilydd a gwneud penderfyniadau da. Maen nhw'n ein helpu ni i fod y gorau y gallwn ni fod ac yn sicrhau bod gennym y sgiliau a'r profiadau cywir yn y lle iawn.

Mae ein gwerthoedd wedi'u cynllunio gan staff i helpu i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, yn enwedig ar y lefelau uwch, a datblygu diwylliant hyfforddi i sicrhau amodau ffyniannus ar gyfer llwyddiant sefydliadol.

Disgwyliwn i ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu'n llawn at feithrin diwylliant cadarnhaol a'n helpu i dyfu drwy fyw ein gwerthoedd a'n hymddygiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd.  Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Lisa Williams ar 029 20320500

Mae Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.

Mae Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg

Dyddiad Cau

  • 31/03/2024
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy