• Swyddog Dadansoddi Data
    £33,280 - £39,474
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ynglŷn â'r swydd 

Mae Archwilio Cymru am recriwtio Swyddog Dadansoddi Data.

Ydych chi'n brofiadol ym myd gwyddor data a dadansoddi data?

Oes gennych chi angerdd am raglenni ac arloesi?

Rydym yn chwilio am rywun sy’n uwch eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn sy'n defnyddio dulliau a arweinir gan ddata i drawsnewid y ffordd rydym yn ymgymryd â'n gwaith archwilio.

Bydd eich hyfedredd mewn rhaglennu R/Python yn disgleirio wrth i chi ymgolli yn natblygiad iteraidd ein prosiectau.

Bydd gennych y cymhelliant a'r penderfyniad i weithio'n annibynnol, o fewn y tîm a gyda'n cwsmeriaid i gyflawni yn unol â therfynau amser.

Mae gwir ddeall anghenion ein cydweithwyr fel cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant ein prosiectau data, felly bydd angen i chi gael sgiliau holi a gwrando rhagorol er mwyn cysylltu â chydweithwyr a chleientiaid o lefelau amrywiol o uwch-dra, mewn cyfarfodydd personol, gweithdai a hwylusir, sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau.

Mae delweddu data yn allweddol er mwyn deall y mewnwelediad o fewn ein data felly mae angen rhywun medrus wrth adrodd y stori o fewn y data, a rhywun a all ein helpu i ymestyn cyrhaeddiad gwaith trwy gynhyrchu offer data ar gyfer y cyhoedd.

Mae ein hymddygiad GWYCH wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn chwilio am rywun sydd uwch ei gymhelliant dros wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus. 

Pwy yw Archwilio Cymru

Archwilio Cymru yw'r corff archwilio sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein swyddogaeth yw:

  • Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
  • Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
  • Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o ategol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

Rydyn ni'n hyblyg – yn gweithio'n gallach;  wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich ategu yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.

Mae gennym delerau rhagorol - Rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith drwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ac eithrio gwyliau banc cyhoeddus).  Gallwch hefyd brynu, gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anffurfiol.  O'n cynllun mentora ac hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn rydym yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddyn nhw.

Mae gennym fuddion rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ystyrir yn un sydd ag un o’r cyfraddau cyfraniadau gorau gan gyflogwr.  Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

Rydym yn Falch o gael ein hachredu - Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau, a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae’r tîm Dadansoddi Data yn gyfrifol am wella pob agwedd o'r ffordd mae Archwilio Cymru yn defnyddio data. Yn eich swydd byddwch yn ymuno â thîm heini sydd â chysylltiadau agos â phob rhan o'r busnes. O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o gyflawni swyddogaethau craidd y timau (a restrir isod):

  1. Arwain ymchwil a datblygu i dechnegau ac offer data arloesol.
  2. Adeiladu offer data sydd ag effaith a'u gwreiddio fel rhan arferol newydd o'n gwaith.
  3. Sbarduno moderneiddio archwiliad ariannol a pherfformiad drwy ei wneud yn fedrus o ran data.
  4. Rheoli setiau data allweddol yn ganolog i sicrhau bod data safonol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  5. Gweithio ochr yn ochr â thimau archwilio a chorfforaethol i'w galluogi i adeiladu offer/cynhyrchion data 'cod isel'.
  6. Sgrinio’r holl gynhyrchion data cyn eu cyhoeddi fel cam rheoli ansawdd ychwanegol.
  7. Hyrwyddo llythrennedd data ar gyfer yr holl staff, er mwyn gwella'r diwylliant data yn Archwilio Cymru.

Canfuwch fwy

Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle ar 07791 007147 neu Helen Goddard ar 02920 320642.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hanner nos ar 12 Chwefror 2023. Sylwer, cynhelir proses ddethol dau gam ar gyfer y swydd hon. Ar ôl i’ch cais ar-lein gael ei siftio bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys cyflwyniad 10 munud wedi'i baratoi ymlaen llaw gyda holi ac ateb ac yna cyfweliad ar sail cymhwysedd. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.

Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Sylwer, nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith.

Dyddiad Cau

  • 12/02/2023
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy