Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ymateb COVID-19 yn sbarduno cynnydd mawr yng ngwariant y GIG wrth i bedwar bwrdd iechyd dorri dyletswyddau ariannol unwaith eto

16 June 2021
  • Mae ein hofferyn data newydd yn dangos tueddiadau gwariant y GIG o ganlyniad i’r pandemig a'u sefyllfaoedd ariannol presennol

    Cododd y cyllid ar gyfer gwasanaethau Iechyd yng Nghymru o £1.7 biliwn gyda llawer ohono i dalu costau COVID-19, ond methodd pedwar o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru unwaith eto â chyrraedd eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd, yn ôl eu cyfrifon ar gyfer 2020-21.  

    Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol i GIG Cymru. Mae'r ddau don o COVID-19 wedi rhoi'r GIG dan bwysau fel na gwelwyd erioed o'r blaen. Amharwyd ar wasanaethau. Mae llawer o staff wedi cael eu hadleoli o'r gwaith dydd ac mae cyrff y GIG yn darparu gwahanol wasanaethau mewn gwahanol ffyrdd.

    Mae cyrff y GIG wedi bod yn cadw golwg ar wariant sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn ystod y pandemig. Mae eu ffurflenni misol i Lywodraeth Cymru yn dangos eu bod wedi gwario £1.1 biliwn net ychwanegol yn 2020-21 oherwydd COVID-19. O'r swm hwn, roedd £702 miliwn yn wariant nad oedd yn gyflog a £477 miliwn yn wariant cyflog. Elfennau allweddol y gwariant oedd Ysbytai Maes am £182 miliwn, Offer Diogelu Personol am £171 miliwn, y Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu am £102 miliwn a bonws staff y GIG o £105 miliwn.

    Mae'r ffigurau hyn i gyd wedi'u nodi mewn offeryn data newydd [agorir mewn ffenest newydd] a gyhoeddwyd heddiw.

    Gyda'r cyllid COVID-19 ychwanegol a chynnydd arall mewn cyllid craidd, cynyddodd Llywodraeth Cymru ei chyllid refeniw ar iechyd o £1.7 biliwn o'i gymharu â 2019-20. Unwaith y bydd chwyddiant yn cael ei gynnwys, roedd hynny'n golygu cynnydd o 12.8% mewn termau real ac mae'n cyfateb i gyllid o £2,620 ar gyfer pob person yng Nghymru ar gyfer 2020-21.

    Er gwaethaf y cyllid uwch, erys gorwariant ar draws GIG Cymru. Methodd pedwar bwrdd iechyd â bodloni eu dyletswydd i fantoli’r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag, ceir cynnydd cadarnhaol, gostyngodd cyfanswm y diffyg o £89 miliwn yn 2019-20 i £48 miliwn eleni, a gostyngodd y gor-wariant cronnol tair blynedd ar draws y GIG o £352 miliwn i £233 miliwn.

    Methodd dau o'r pedwar corff a fethodd â bodloni eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros dair blynedd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – mantoli eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddangos tuedd sy'n gwella yn ei sefyllfa ariannol, mae cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dirywio unwaith eto.

    Mae'r ddau gorff arall sy'n methu â chyrraedd eu dyletswydd ariannol i fantoli’r gyllideb dros dair blynedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – ill dau wedi gwneud cynnydd ariannol sylweddol, gan fantoli’r gyllideb yn ystod y flwyddyn.

    Cymhwysodd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn archwilio ar reoleidd-dra gwariant y pedwar corff hyn ar gyfer 2020-21 gan fod methu'r ddyletswydd hon yn golygu eu bod i gyd wedi gwario y tu hwnt i’w hawdurdod.

    Roedd y tri bwrdd iechyd arall, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig i gyd yn cyflawni eu dyletswyddau i fantoli eu cyllidebau.

    Fel arfer, byddai'n ofynnol i gyrff y GIG fod â chynlluniau cymeradwy ar waith ar gyfer y cyfnod tair blynedd nesaf. Cafodd y gofyniad hwn ei ohirio yn 2020-21 ac yn hytrach roedd cyrff yn cynllunio'n chwarterol er mwyn ymateb i'r amgylchedd a oedd yn newid yn gyson. Fel rhan o adferiad y GIG, mae angen cynlluniau blynyddol ar gyfer 2021-22, a thu hwnt i hynny bydd y GIG yn ceisio symud yn ôl i gynllunio tair blynedd. Felly ar gyfer 2020-21 (ac eithrio Addysg a Gwella Iechyd Cymru nad oedd ganddynt ddyletswydd gynllunio ar gyfer eleni), ail-adroddodd cyrff y GIG berfformiad yn erbyn eu dyletswydd gynllunio ar gyfer 2019-20 a oedd yn parhau yn weithredol yn ystod yr oedi hwn.

    ,
    Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol ac rwyf am dalu teyrnged i ymroddiad holl staff GIG Cymru – y rhai ar y rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau achub bywydau. Mae cyllid sylweddol iawn wedi'i ddarparu, yn bennaf i fynd i'r afael â'r pwysau a grëwyd gan COVID-19. Ac eto, mae sefyllfa ariannol y GIG yn parhau i fod yn heriol dros ben wrth iddi barhau i reoli pandemig parhaus COVID-19, symud i'r modd adfer ac ymateb i bwysau cost a galw newydd. Rwy'n bwriadu adrodd yn fanylach ar rai o'r heriau mawr sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus wrth wella o'r pandemig fel rhan o gyfres o adroddiadau 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' yn yr hydref. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Yn ei adroddiadau archwilio ar gyrff GIG Cymru, tynnodd yr Archwilydd Cyffredinol sylw at effaith Cyfarwyddyd Gweinidogol Rhagfyr 2019 ar ariannu rhwymedigaethau treth pensiwn i glinigwyr y GIG, y mae pob un o gyrff perthnasol y GIG wedi datgelu rhwymedigaethau amodol ar eu rhan.
    • Roedd yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gyfyngu ar gwmpas ei farn archwilio ar gyfrifon Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre oherwydd, o ganlyniad i’w bolisi o ddilyn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â COVID-19, nid oedd yn gallu mynychu gwirio stoc i gael tystiolaeth archwilio ynghylch prisio stociau'r Ymddiriedolaeth ar 31 Mawrth 2021. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r farn hon yn deillio o unrhyw ddiffygion yn systemau neu weithredoedd yr Ymddiriedolaeth, ond oherwydd effaith COVID-19 ar weithdrefnau archwilio allweddol.
    • Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ychydig o adroddiadau sy'n edrych ar feysydd allweddol sy'n ymwneud â COVID-19 a'r GIG:
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am yr archwiliad blynyddol o'r rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £21 biliwn o arian y pleidleisir arno'n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o'r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na'r llywodraeth. 
    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol o naw aelod sy'n cyflogi staff ac sy'n darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ymbarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Offeryn Data Cyllid GIG Cymru - hyd at fis Mawrth 2021

    View more