Hawlfraint a Datganiad o ran Ail-ddefnyddio

  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn meddu ar hawlfraint y deunydd sydd yn y wefan hon, ac eithrio pan nodir hawlfraint trydydd parti.
  • Gallwch ail-ddefnyddio deunydd o dan hawlfraint Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng. Os ydych yn ail-ddefnyddio deunydd o'r fath, rhaid i eich ailddefnydd fod yn gywir, rhaid iddo beidio â bod mewn cyd-destun camarweiniol a rhaid iddo gydnabod hawlfraint Archwilydd Cyffredinol Cymru. Lle rydym wedi nodi unrhyw ddeunydd o dan hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd deiliaid yr hawlfraint dan sylw cyn ailddefnyddio deunydd o'r fath.
  • Ac eithrio pan fo logo Archwilio Cymru yn ffurfio rhan annatod o gopi deunydd, ni chaniateir defnyddio logo Archwilio Cymru heb gymeradwyaeth gennym ymlaen llaw. Dylid anfon ceisiadau am ailddefnyddio o'r fath at cyfraith.moeseg@archwilio.cymru.

O bryd i'w gilydd gall adroddiadau'r Archwilydd Cyffredinol a chyhoeddiadau eraill yr Archwilydd Cyffredinol neu Swyddfa Archwilio Cymru gynnwys gwybodaeth sy'n destun hawlfraint y Goron, megis lle rydym wedi atgynhyrchu gwybodaeth a gynhyrchwyd yn uniongyrchol gan un o gyrff y Goron. Mewn achosion o'r fath, bydd yr Archwilydd Cyffredinol neu Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnwys datganiad hawlfraint a dylai defnyddwyr gymryd sylw o'r datganiad hwn a gweithredu yn unol ag ef. Gweinyddir hawlfraint y Goron gan Llyfrfa ei Mawrhydi. I weld Nodiadau Canllaw Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) ar faterion hawlfraint amrywiol, ewch i wefan OPSI [Agorir mewn ffenest newydd]

Nid yw'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am ddeunydd sydd ar gael ar wefannau allanol.

Os ydych yn cynnal neu'n datblygu gwefan, nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, ni ddylech roi dolen â gwybodaeth ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru mewn unrhyw fodd sy'n awgrymu perthynas â, neu gymeradwyaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru, neu sydd yn camfynegi bod cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gyhoeddi gan unrhyw un heblaw Swyddfa Archwilio Cymru.