Rec banner home

GWEITHIO YN ARCHWILIO CYMRU

Byddwch yn falch o ble chi'n gweithio. Mwynhewch yr hyn chi'n ei wneud. More information

Rydym am i Archwilio Cymru fod yn fan lle mae pobl yn falch o weithio a mwynhau'r hyn y maent yn ei wneud - amgylchedd cynhwysol y gall pawb ragori ynddo.

Fel gweithiwr newydd byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu drylwyr sydd wedi’i theilwra i gwrdd â’ch anghenion unigol er mwyn sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth glir o’r hyn a ddisgwylir. Ar eich diwrnod cyntaf byddwch yn cael sesiwn sefydlu corfforaethol ac yn dysgu am ein polisïau a'n gweithdrefnau, gan egluro telerau ac amodau cyflogaeth a'n disgwyliadau.

Byddwch yn cwblhau modiwlau e-ddysgu hanfodol megis iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd cyflwyniad hefyd i'r systemau TG y byddwch yn eu defnyddio fel rhan o'ch swydd. Bydd y maes busnes y byddwch yn gweithio ynddo yn darparu cyfnod sefydlu pwrpasol i chi wedi'i deilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol.

Ein gwerthoedd

Rydym wedi ymrwymo i wneud Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio a chreu diwylliant lle gall pawb ffynnu.

Edrych i’r Dyfodol
Fel archwilwyr, nid dim ond edrych yn ôl a wnawn: rydym yn edrych tua’r gorwel, ac mae ein meddyliau a'n gweithredoedd yn canolbwyntio ar y dyfodol yng nghyd-destun lles cenedlaethau'r dyfodol.
Lightbulb Cog
Annibyniaeth
Fel corff archwilio cyhoeddus, mae annibyniaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
Independance
Blaengaredd
Rydym yn cefnogi arloesedd a chymryd risgiau wedi’u reoli’n dda, boed hynny gennym ni neu gan y rhai sy'n rhoi cynnig arni yn ein cyrff archwiliedig.
Icon
Diffuantrwydd
Mae bod yn ddiffuant yn sail i'n holl ryngweithio â'n gilydd, gyda'r cyhoedd a chyda'r cyrff a archwilir gennym.
icon
Cydweithio
Mae cydweithredu'n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn y ffyrdd rydym yn gweithio gyda'n gilydd a chyda'r arolygiaethau.
icon
Tegwch
Rydym yn gweithredu gyda thegwch drwy’r amser yn y ffordd rydym yn trin ein cydweithwyr, ein cyrff archwiliedig a'r cyhoedd.
icon
Edrych i’r Dyfodol
Annibyniaeth
Blaengaredd
Diffuantrwydd
Cydweithio
Tegwch

Ein buddion

Rydym yn deall pa mor bwysig yw iechyd, lles a chydbwysedd bywyd-gwaith ein staff, a dyna pam rydym yn cynnig manteision sylweddol, cyfathrebu agored, arweinyddiaeth gref, ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a phersonol. 

  • Brain smart
    Gweithio'n Glyfrach

    Rydym yn gweithio'n 'Gallach' yn Archwilio Cymru - gyda'n hoffer TG rhagorol, argaeledd o ran meddalwedd ac egwyddorion gwaith clyfrach, mae'r gallu i weithio mewn lleoliadau ac amseroedd gwahanol yn agor ein…

  • Family people
    Ystyried Teuluoedd

    Mae gennym ystod eang o bolisïau hael sy'n ystyried teuluoedd; Rydym yn llwyr gefnogi'r rhai sy'n ceisio dod yn rhieni a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu gydag amrywiaeth o opsiynau hyblygrwydd. 

  • Road
    Llwybrau gyrfa a datblygiad proffesiynol

    Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn dysgu a datblygu'r holl staff ac yn cydnabod pa mor hanfodol yw hyn i lwyddiant busnes yn y tymor hir. Fel aelod staff llawn amser, byddwch yn cael hyd at 10 diwrnod y flwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu.

Our GREAT Behaviours

Rydym wedi ymrwymo i wneud Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio a chreu diwylliant lle gall pawb ffynnu.

Rhinweddol a Didwyll
Rydym yn onest, yn anhunanol ac yn hawdd mynd atynt, gan greu amgylchedd diogel ac agored i bawb fod yn nhw eu hunain a gofalu am, cefnogi ac annog ei gilydd.
People Heart
Yn Parchu’n Gilydd
Rydym yn cofleidio amrywiaeth ac yn trin ein gilydd yn deg, gan feithrin perthynas waith gref, siarad ein meddwl yn feddylgar a bod yn agored i her.
People
Egnïol
Rydym yn hyderus ac yn barod i fentro, gan ddangos agwedd gadarnhaol, barod i weithredu, llawn hwyl ac sy’n dathlu llwyddiant.
Medal
Hyblyg
Rydym yn hyblyg ac yn arloesol, bob amser yn datblygu ein gwybodaeth a'n sgiliau ac yn chwilio am brofiadau newydd.
Brain
Dibynadwy
Rydym yn cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithredoedd, yn cyflawni ein haddewidion, yn rhannu gwybodaeth yn agored, yn gweithredu er budd gorau Archwilio Cymru ac yn galluogi eraill i lwyddo.
Handshake
Rhinweddol a Didwyll
Yn Parchu’n Gilydd
Egnïol
Hyblyg
Dibynadwy

Ein timau

Ein nod yw bod yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda, yn atebol ac yn uchel ei barch ac sy'n lle gwych i weithio.

Mae Archwilio Cymru yn cynnwys tair adran wahanol o'r sefydliad, Gwasanaethau Archwilio, Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfathrebu a Newid.

Mae’r tair adran yn rhan annatod o gyflawni cynllun strategol ac uchelgeisiau Archwilio Cymru.

  • SWYDDI DDIWEDDARAF

    Lleoliad Gwaith (2024)
    Rydym yn awyddus i recriwtio ar gyfer lleoliadau gwaith i gefnogi ein tîm gwasanaethau archwilio yn ystod misoedd yr haf.