Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Darllenwch ein hadroddiad cryno

    Читайте наш звіт українською мовою

    Читать наш итоговый отчет на русском языке

    Read our summary report in English

    Darllenwch ein hadroddiad cryno yn Gymraeg

    Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn fyd-eang cofnodwyd 6.2 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o Wcráin ar ôl i Rwsia ymosod ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022.

    Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ganiatáu i'r rhai a oedd yn ffoi rhag rhyfel yn Wcráin ddod i mewn i'r DU.

    Penderfynodd Gweinidogion Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin. Roedd hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am Wcreiniaid heb iddynt orfod cael eu paru â lletywyr cyn cael fisa.

    Mae cynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am tua 45% o'r newydd-ddyfodiaid o Wcráin i Gymru.

    Fe wnaeth ein hadroddiad ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'i phartneriaid, yn ymateb yn effeithiol i gefnogi Wcreiniaid yng Nghymru.

    Fe wnaethom fwrw golwg ar yr ymateb cychwynnol a sut y mae’r ymateb wedi newid dros amser.

    Ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid. Fodd bynnag, trwy gadw'r cynllun uwch noddwr ar agor tan fis Mehefin 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gefnogi'r 1,000 o newydd-ddyfodiaid y dywedodd y byddai’n eu cefnogi yn y cyfnod cychwynnol. Fe wnaeth hyn er gwaethaf y posibilrwydd y byddai niferoedd sylweddol uwch o Wcreiniaid yn cyrraedd, fel a ddigwyddodd. Hefyd, roedd yn rhy optimistaidd ynghylch pa mor hir y byddai'r rhai a oedd yn cyrraedd yn aros yn eu llety cychwynnol. Fe wnaeth y materion hyn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac fe arweinion nhw at gostau uwch nag a ddisgwyliwyd i ddechrau, er gwaethaf ymdrechion i sicrhau gwerth am arian.

    Ers cyfnod cychwynnol yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi cryfhau eu ffocws ar gynorthwyo Wcreiniaid i symud allan o'u llety cychwynnol. Mae'r nifer mewn llety cychwynnol wedi gostwng yn sylweddol ers yr uchafbwynt ym mis Hydref 2022.

CAPTCHA