Yr Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori ynghylch dull archwilio newydd

09 Tachwedd 2020
  • Mae Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori â chyrff cyhoeddus yng Nghymru ynghylch newidiadau i'w ddull o archwilio.

    Daw hyn mewn ymateb i ddeddfwriaeth ddiweddar a deddfwriaeth sydd i ddod yn y dyfodol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Agorir mewn ffenest newydd], sydd wedi gosod dyletswyddau statudol newydd arno. 

    Mae heriau a newidiadau eraill yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus, y mae'n rhaid hefyd eu cymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu dull newydd o archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • gostyngiadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus
    • demograffeg newidiol yng Nghymru
    • diwygio posibl ar lywodraeth leol
    • cau cyfrifon llywodraeth leol yn gynt
    • dull o archwilio grantiau sy'n 'canolbwyntio mwy ar ganlyniadau'
    • datganoli cyllidol yng Nghymru, a
    • newidiadau technolegol ehangach.

    Mae Huw Vaughan Thomas yn ymgynghori â chyrff cyhoeddus ar gynigion ar gyfer casgliad o egwyddorion a meini prawf, a ddefnyddir i ailsiapio ei ddull o archwilio.

    Mae hefyd yn gofyn am farn ar b’un a ddylid edrych i mewn i'r potensial ar gyfer datblygu adrodd integredig o fewn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

    Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

    "Mae gwaith craffu allanol yn hollol hanfodol, oherwydd ei fod yn rhoi persbectif annibynnol ar b’un a yw’r gwasanaethau cyhoeddus yn gwario eu harian yn ddoeth neu beidio, yn cael eu rheoli'n dda, yn ddiogel ac yn addas i'r diben. 

    Ond mae'n rhaid iddo hefyd fod yn berthnasol, yn ystyrlon ac yn gymesur mewn amseroedd sy'n newid. Ymdrin â hynny y mae’r ymgynghoriad hwn."

    Mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad.