Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn rhoi hawl gyffredinol i chi weld gwybodaeth gofnodedig a gedwir gennym.

Beth sydd angen i chi ei roi i ni

Dylai eich cais fod yn un ysgrifenedig a dylai gynnwys y wybodaeth ganlynol:
  • eich enw
  • eich cyfeiriad cyswllt, a
  • disgrifiad manwl o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Nid oes rhaid i'ch disgrifiad fod yn berffaith. Fodd bynnag, bydd rhoi manylion penodol ac unrhyw ddyddiadau perthnasol yn ein helpu i brosesu eich cais yn gyflymach. Mae ein Polisi Gwybodaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Ble i'w anfon

Gallwch gyflwyno cais drwy e-bost i: swyddog.gwybodaeth@archwilio.cymru. Dylai ceisiadau drwy'r post gael eu hanfon at:
Y Swyddog Gwybodaeth
Archwilio Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Os bydd angen rhagor o gyngor neu help arnoch wrth wneud cais, ffoniwch y Swyddog Gwybodaeth ar 029 2032 0500.

Gwneud cwyn

Os oes gennych gŵyn ynghylch y modd yr ymdriniwyd â chais Rhyddid Gwybodaeth, dylech ysgrifennu yn y lle cyntaf at y Swyddog Gwybodaeth yn y cyfeiriad uchod. Os na fyddwch yn fodlon ar unrhyw ateb a gewch wedyn, gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy gyfrwng:
Ffôn: 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Post: 
The Information Commissioner's Office               
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Gwybodaeth ddefnyddiol

Os yw eich cais yn un am wybodaeth amgylcheddol, ymdrinnir ag ef o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol). Nid oes rhaid i geisiadau am wybodaeth amgylcheddol fod yn rhai ysgrifenedig, ond argymhellir hyn er eglurder.
Os yw eich cais yn un am wybodaeth amdanoch chi eich hun, ymdrinnir ag ef fel cais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol)
Ceir gwybodaeth ychwanegol am Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ein Cynllun Cyhoeddi
Gallwch weld ein hymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth blaenorol yn ein cofnod datgelu.