Cynllun cyhoeddiadau

Rydym wedi mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol sydd wedi'i baratoi a'i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Dysgwch ragor ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth [Agorir mewn ffenest newydd]
Mae'r canllaw i'r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol yn ein hymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael yn rheolaidd i'r cyhoedd.  Mae hefyd yn rhoi manylion am ble y gellir codi tâl am ddarparu gwybodaeth.
Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ddiwethaf ar 13 Chwefror 2023.

Gwneud cais am gopïau papur 

Mae copïau papur o'r wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan ar gael am ddim, ar yr amod nad yw cyfanswm y copïau dros 200 o dudalennau. Pan fydd copïau papur yn cynnwys mwy na 200 o dudalennau ar gyfer un cais neu grŵp o geisiadau cysylltiedig, mae'n bosibl y byddwn yn codi pum ceiniog y dudalen a chostau postio yn unol â rheoliadau codi tâl y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth [Agorir mewn ffenest newydd]. Byddwn yn eich hysbysu o unrhyw daliadau cyn darparu'r wybodaeth.
Gellir gwneud cais am gopïau papur neu wybodaeth a restrir heb hyperddolen drwy'r ffyrdd canlynol:
Ffôn: 029 2032 0500 a gofynnwch am y Swyddog Gwybodaeth
Drwy'r post: Swyddog Gwybodaeth
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ   
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Byddwn hefyd yn darparu copïau o eitemau mewn print bras ac ar dapiau sain, ar gais, pan fo hynny'n ymarferol.

Hawlfraint

Oni bai y nodir fel arall:  
  • Ceidw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Swyddfa Archwilio Cymru yr hawlfraint am wybodaeth yn y cynllun cyhoeddi. 
  • Gall yr holl ddeunydd sydd ar gael drwy ein gwefan gael ei lawrlwytho, ei gopïo neu ei atgynhyrchu am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb fod angen caniatâd penodol. Mae hyn ar yr amod y caiff y deunydd ei atgynhyrchu yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn dull difrïol nac mewn cyd-destun camarweiniol. Lle y cyhoeddir y deunydd gan eraill neu lle y rhoddir y deunydd i eraill, dylid cydnabod y ffynonellau a'r statws hawlfraint.

O bryd i'w gilydd gall y cyhoeddiadau ar ein gwefan gynnwys gwybodaeth sy'n destun hawlfraint y Goron, megis; lle rydym wedi atgynhyrchu gwybodaeth a gynhyrchwyd yn uniongyrchol gan un o gyrff y Goron. Mewn achosion o'r fath, bydd y cyhoeddiad wedi cynnwys datganiad hawlfraint a dylai defnyddwyr gymryd sylw o'r datganiad hwn a gweithredu yn unol ag ef. 

Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi yn yr Archifau Gwladol sy'n rheoli hawlfraint y Goron. I weld nodiadau canllaw ar faterion hawlfraint amrywiol, ewch i wefan yr Archifau Gwladol [Agorir mewn ffenest newydd]
Nid yw'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am ddeunydd sydd ar gael ar wefannau allanol.  
Os ydych yn cynnal neu'n datblygu gwefan, nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â gwybodaeth ar ein gwefan. Fodd bynnag, ni ddylech roi dolen â gwybodaeth mewn unrhyw fodd sy'n awgrymu neu sydd yn camfynegi bod:
  • perthynas â'n sefydliad 
  • cymeradwyaeth gan ein sefydliad, neu 
  • cynnwys ein sefydliad wedi'i gyhoeddi gan unrhyw un heblaw amdanom ni.

Canllaw i adrannau o'r cynllun cyhoeddi 

Dewiswch eich pwnc o ddiddordeb o'r rhestr i symud i'r adran honno:
  1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
  2. Beth rydym yn ei wario a sut
  3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut hwyl rydym yn ei chael arni
  4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
  5. Polisïau a gweithdrefnau
  6. Rhestrau a chofrestrau
  7. Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

1.1 Rolau a chyfrifoldebau
Ceir amlinelliad o rolau a chyfrifoldebau'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn yr adran Amdanom ni.
1.2 Strwythur sefydliadol
1.3 Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'n swyddogaethau
Ceir crynodeb o sail gyfreithiol gwaith yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn ein canllaw i ddeddfwriaeth archwilio cyhoeddus Cymru [agorir mewn ffenest newydd].
Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hawliau mynediad statudol eang i ddogfennaeth a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cyrff mae'n eu harchwilio a'u harolygu. Hawliau mynediad Archwilydd Cyffredinol Cymru.
1.4 Sefydliadau rydym yn gweithio gyda hwy
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa'r Cabinet hefyd wrth gyflawni'r Fenter Twyll Genedlaethol
1.5 Uwch aelodau o staff ac aelodau'r bwrdd rheoli
Ceir manylion bywgraffyddol yr Archwilydd Cyffredinol, y Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd yn ein hadran Pwy yw pwy
1.6 Lleoliadau a manylion cyswllt
Mae lleoliadau a phrif rifau cyswllt ein swyddfeydd ar gael yn yr adran cysylltu â ni.
 

2. Beth rydym yn ei wario a sut

2.1 Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant
Mae adroddiadau a chyfrifon blynyddol, a chyllidebau (amcangyfrifon o incwm a gwariant) ar gael ar ein tudalennau cyhoeddiadau. Rydym yn awgrymu dewis "Archwilio Cymru" fel Pwnc ar y ffurflen chwilio.
2.2 Lwfansau a threuliau
Lawrlwythwch fersiwn ddiweddaraf ein Polisi Teithio a Chynhaliaeth [PDF 217KB Agorir mewn ffenest newydd] (saesneg yn unig).
Caiff manylion treuliau'r Archwilydd Cyffredinol a'r uwch-reolwyr ac Aelodau'r Bwrdd  eu cyhoeddi yn ein hadran Treuliau a lletygarwch.
2.3 Cyflogau a strwythurau graddio
Mae'r ystodau cyflog ar gael yn yr adran gweithio inni.
2.4 Gweithdrefnau caffael a thendro
Gallwch weld gwybodaeth am ein tendrau a'n contractau presennol a blaenorol.
 

3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut hwyl rydym yn ei chael arni

3.1 Cynllun strategol
Mae ein Cynllun Blynyddol 2022-23 yn amlinellu ein themâu a'n gweithgarwch busnes craidd.
3.2 Cynllun busnes blynyddol
Gweler y manylion yn ein Cynllun Blynyddol 2022-23
I gael gwybodaeth am unrhyw waith arall, cysylltwch ag post@archwilio.cymru.
3.3 Adroddiadau blynyddol
Mae adroddiadau a chyfrifon blynyddol, a chyllidebau (amcangyfrifon o incwm a gwariant) ar gael ar ein tudalennau cyhoeddiadau. Rydym yn awgrymu dewis "Archwilio Cymru" fel Pwnc ar y ffurflen chwilio.
3.4 Safonau gwasanaethau
Cynhelir ein harchwiliadau yn unol â'r Cod Ymarfer Archwilio ac felly yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol.
 
 

4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

4.1 Prif gynigion a phenderfyniadau polisi 
Mae cylch gorchwyl y Bwrdd (rheolau gweithdrefnol) [agorir mewn ffenest newydd] yn llywodraethu sut mae'n gwneud penderfyniadau mawr.
4.2 Ymgynghoriadau cyhoeddus
O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn ymgynghori â phartïon â diddordeb ar bolisïau penodol. Dysgwch ragor yn ein hadran ymgynghoriadau.
4.3 Cofnodion cyfarfodydd ar lefel uwch 
Ewch i gofnodion Bwrdd i gael rhagor o wybodaeth.
Yn  amodol ar eithriadau perthnasol, mae gwybodaeth am bapurau'r Bwrdd, cofnodion a phapurau'r Pwyllgor Rheoli a chyfarfodydd aelodau'r bwrdd gyda gweinidogion a sefydliadau allanol ar gael ar gais.
 
 

5. Polisïau a gweithdrefnau

5.1 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cynnal ein busnes a darparu gwasanaethau
Mae Cod Ymarfer Archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr ac arolygwyr yng Nghymru yn gwneud eu gwaith. 
Nid ydym yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, fel y nodir yn ein Safonau'r Iaith Gymraeg.
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ‘berson penodedig’ o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy'n codi pryderon am gamweddau yn y gweithle gyda'r Archwilydd Cyffredinol gael rhywfaint o ddiogelwch mewn cyfraith cyflogaeth. Lawrlwythwch y canllawiau [PDF 855KB Agorir mewn ffenest newydd].
Mae gennym god ymarfer [agorir mewn ffenest newydd] sy'n rheoli'r berthynas rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gyda chynlluniau dirprwyo [agorir mewn ffenest newydd] wedi'u paratoi sy'n cwmpasu eu swyddogaethau. Cylch Gorchwyl Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn nodi’r trefniadau ar gyfer cynnal busnes.
Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau'r Bwrdd [PDF 607KB agorir mewn ffenest newydd] yn gosod safonau ar gyfer ymddygiad aelodau wrth gyflawni cyfrifoldebau statudol a phroffesiynol y Bwrdd.
5.2 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a chyflogi staff
Mae swyddi gwag presennol neu fanylion am swyddi gwag a hysbysebir yn allanol gan gynnwys swydd ddisgrifiad a manyleb y person ar gael yn ein hadran Swyddi.
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn bresennol ein Polisi Iechyd a Diogelwch [Agorir mewn ffenest newydd] (saesneg yn unig).
Mae ein Llawlyfr Cyflogeion yn cynnwys canllawiau ar delerau ac amodau gwasanaeth a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
Am ragor o wybodaeth am y Llawlyfr anfonwch neges e-bost i: post@archwilio.cymru
5.3 Gwasanaeth Cwsmeriaid
I gael gwybodaeth am sut i gwyno am Swyddfa Archwilio Cymru, darllenwch ein canllawiau ar gwynion
Ar gyfer cwynion mewn perthynas â Rhyddid Gwybodaeth, darllenwch ein polisi gwybodaeth.  
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am ein cynllun cyhoeddiadau, cysylltwch â'r:
Ffôn: 029 2032 0500
Drwy'r post:
Swyddog Gwybodaeth
Archwilio Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
5.4 Rheoli cofnodion a pholisïau data personol
Darllenwch ein Polisi Rheoli Cofnodion [PDF 397KB Agorir mewn ffenest newydd] (saesneg yn unig) i gael gwybod sut rydym yn rheoli data a gwybodaeth.
Mae ein Polisi Diogelwch Gwybodaeth [PDF 103KB Agorir mewn ffenest newydd] (saesneg yn unig) yn nodi rhwymedigaethau'r holl gyflogeion mewn perthynas â defnyddio cyfleusterau TGCh.
Ar gyfer gwaith paru data, megis y Fenter Twyll Genedlaethol, mae Cod Ymarfer ar Baru Data yr Archwilydd Cyffredinol [PDF 603KB Agorir mewn ffenest newydd] yn gymwys.
Am ragor o wybodaeth am y Fenter Twyll Genedlaethol a pharu data ewch i'n hadran Menter Twyll Genedlaethol
5.5 Gweithdrefnau a pholisïau codi ffioedd
Rydym yn codi ffioedd am waith yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â'r statud. Ceir rhagor o wybodaeth yn canllaw i ddeddfwriaeth archwilio cyhoeddus Cymru [agorir mewn ffenest newydd].
Mae ein cynllun ffioedd yn nodi'r sail ar gyfer codi ffioedd i'r cyrff cyhoeddus rydym yn eu  harchwilio.
Nodir y taliadau sy'n ymwneud â gwybodaeth sydd ar gael o dan y cynllun cyhoeddi ar ddechrau'r canllaw hwn. 
Gall taliadau ar gyfer ceisiadau penodol am wybodaeth fod yn gymwys, darllenwch ein Polisi gwybodaeth am ragor o fanylion.
 
 

6. Rhestrau a chofrestrau

6.1 Cofrestr asedau

Rhoddir gwybodaeth am asedau sefydlog yn adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol y gallwch ddod o hyd iddynt ar ein tudalennau cyhoeddiadau. Rydym yn awgrymu dewis "Archwilio Cymru" fel Pwnc ar y ffurflen chwilio.

6.2 Cofnod datgelu
Mae ein cofnod datgelu yn nodi'r ymatebion rydym wedi eu rhoi i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
6.3 Lletygarwch a roddir ac a dderbynnir gan uwch aelodau o staff
Rydym yn cyhoeddi manylion lletygarwch a roddir ac a dderbynnir gan yr Bwrdd a'r cyfarwyddwyr a'r pwyllgor rheoli. Gallwch weld y wybodaeth hon yn ein hadran treuliau a lletygarwch.
6.4 Cofrestr buddiannau
Rydym yn cyhoeddi cofrestrau buddiannau aelodau'r Bwrdd a'r cyfarwyddwyr ar eu tudalennau bywgraffiad yn yr adran Pwy yw pwy.
6.5 CCTV
Rydym yn defnyddio system teledu cylch cyfyng (CCTV) ar gyfer diogelu ein swyddfa gyda chamerâu sy'n cwmpasu mannau cyhoeddus gan gynnwys y maes parcio, y fynedfa a'r mannau ymadael a'r dderbynfa.
 

7. Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

7.1 Gwasanaethau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn darparu gwasanaethau archwilio ar sail statudol i awdurdodau cyhoeddus, ac mae ganddo bwerau arolygu Canllaw ar Ddeddfwriaeth Archwilio Cyhoeddus Cymru [agorir mewn ffenest newydd].
I gael mynediad i bob un o'n hadroddiadau cyhoeddedig ewch i'r adran Gyhoeddiadau.
7.2 Gwasanaethau ar gyfer sefydliadau eraill
O dan adran 19 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus Cymru 2013, gall SAC drefnu bod gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol a thechnegol yn cael eu darparu i ‘awdurdod perthnasol’ fel y diffinnir yn adran 19(9) o Ddeddf 2013.
Mae'r Gyfnewidfa Arfer Da yn adnodd i helpu sefydliadau i wella eu gwasanaethau. 
7.3 Gwasanaethau ar gyfer aelodau'r cyhoedd
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi ei adroddiadau er budd y cyhoedd, yn ogystal â chynrychiolwyr etholedig a rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus.
7.4 Gwasanaethau y mae gan y corff hawl i adennill ffi ar eu cyfer ynghyd â'r ffioedd hynny
Rydym yn codi ffioedd am waith archwilio, ardystio grantiau a chytundeb a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â'r statud. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw i ddeddfwriaeth archwilio cyhoeddus Cymru [agorir mewn ffenest newydd].
Mae ein cynllun ffioedd yn nodi'r sail ar gyfer codi ffioedd i'r cyrff cyhoeddus rydym yn eu  harchwilio.
7.5 Datganiadau i'r cyfryngau
I gael mynediad i archif o'n datganiadau i'r wasg, ewch i'r adran newyddion benodol. Dylai unrhyw ymholiadau'n ymwneud â'r wasg gael eu hanfon drwy e-bost i post@archwilio.cymru.