Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yr effeithiau ar gynnydd dysgwyr a chyllidebau ysgolion os na reolir absenoldeb athrawon o’r ystafell ddosbarth yn dda

12 Tachwedd 2020
  • Cymerwyd camau i wella cymorth ac ymateb i bryderon ynghylch tâl athrawon cyflenwi, ond mae COVID-19 a newidiadau i’r cwricwlwm yn cyflwyno heriau newydd

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gwella gallu athrawon cyflenwi i gael gafael ar adnoddau hyfforddi, wedi ymateb i bryderon ynglŷn â chontract yr asiantaeth genedlaethol – gan gynnwys isafswm cyfradd cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi – ac wedi ceisio lleihau’r amser y mae athrawon yn ei dreulio y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae effaith gyffredinol y camau gweithredu hyn yn aneglur ac mae’r system addysg o dan bwysau ychwanegol ar hyn o bryd.

    Yn flaenorol, gwelsom fod oddeutu 10% o ddosbarthiadau wedi eu cyflenwi gan rywun nad oedd yn athro dosbarth, oherwydd salwch a datblygiad proffesiynol yn amlach na pheidio. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio lleihau biwrocratiaeth a llwyth gwaith athrawon, sy’n ffactorau a all gyfrannu at absenoldeb yn gysylltiedig â straen, a rheoli effaith gweithgareddau datblygiad proffesiynol ar amser addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru sy’n berthnasol i gyflenwi absenoldeb athrawon, er bod tystiolaeth nad adlewyrchir hyn bob amser yn yr ystafell ddosbarth.

    Mae athrawon cyflenwi a staff cyflenwi eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ac adnoddau ar-lein ar gyfer eu datblygiad proffesiynol eu hunain bellach ac mae contract staffio cyfredol yr asiantaeth genedlaethol yn cwmpasu darpariaeth hyfforddiant sylfaenol yn well mewn meysydd megis diogelu. Fodd bynnag, mae cost bosibl hyfforddiant a/neu’r cyfle a gollwyd i weithio a sicrhau incwm yn parhau i fod yn bryder i lawer.

    Ers mis Medi 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys isafswm cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi yn ei chontract staffio asiantaeth genedlaethol. Mae’r isafswm cyflog hwn yn cyfateb i waelod prif raddfa’r athrawon (ychydig yn llai na £139 y diwrnod ar hyn o bryd). Croesawyd hyn gan y gymuned staff cyflenwi er ei fod yn debygol o gynyddu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion a gallai ysgogi ysgolion i ystyried trefniadau y tu allan i’r contract cenedlaethol neu i beidio â dibynnu ar athrawon cymwysedig. Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer cynllun treialu a welodd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaeth cyflenwi ar draws 19 o glystyrau ysgolion, er bod costau’n broblem pan ddaeth y cyllid i ben.

    Mae bylchau mewn data yn ei gwneud yn anodd dweud a yw’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael yr effeithiau a fwriedir. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyfanswm y gwariant ar drefniadau cyflenwi, sut y darperir staff cyflenwi neu eu heffaith ar ddysgwyr. Mae rhywfaint o ansicrwydd hefyd ynghylch y nifer sy’n manteisio ar yr adnoddau hyfforddi sydd ar gael bellach. Gallai Arolwg o’r Gweithlu Addysg yn y dyfodol ddarparu rhywfaint o dystiolaeth berthnasol. Adroddodd yr arolwg diwethaf yn 2017 ac mae cynlluniau ar gyfer arolwg arall yn gynharach yn 2020 wedi eu gohirio.

    Wrth edrych i’r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd angen llawer o staff cyflenwi ar ysgolion er mwyn rhyddhau staff i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n amcangyfrif y bydd hyn yn arwain at gost o ychydig yn llai nag £11 miliwn yn 2020-21. Nid ydym yn glir a oes digon o athrawon cyflenwi gweithredol ar gael i wneud hyn, yn enwedig gan ei bod yn debygol y bydd galw am staff ar gyfer y fenter ‘Recriwtio, Adfer a Chodi safonau’, a chyfradd uwch na’r cyfartaledd o absenoldeb oherwydd salwch neu staff sy’n hunanynysu oherwydd pandemig COVID-19. Gallai bodloni’r galw ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a phynciau lle ceir prinder megis mathemateg a ffiseg fod yn arbennig o anodd.

    Mae ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

    • Atgyfnerthu yn ei phroses o ddatblygu a gweithredu polisi bod rheoli absenoldeb staff mewn modd effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr;
    • Nodi mesurau llwyddiant tymor hwy clir er mwyn barnu’r cynnydd o ran gwella ansawdd a digonolrwydd athrawon cyflenwi; a
    • Sicrhau bod staff cyflenwi a gyflogir drwy gontract yr asiantaeth genedlaethol yn gweithio yn unol â disgrifiad eu swyddogaeth.
    ,
    Mae gweithwyr sy’n darparu gwasanaeth cyflenwi dros dro mewn ystafelloedd dosbarth yn ein hysgolion yn rhan hanfodol o’n system addysg. Ond effeithir ar gynnydd dysgwyr a chyllidebau ysgolion os na reolir absenoldeb athrawon o’r ystafell ddosbarth yn dda. Bu llawer o ddatblygiadau pwysig ers ein hadroddiad yn 2013, ond gallai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i ddangos effaith y camau y mae wedi eu cymryd. Mae angen iddi ystyried hefyd a oes digon o weithwyr dros dro ar gael i helpu i reoli’r ymateb i COVID-19 ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd, yn enwedig yn y meysydd hynny y gwyddom eisoes fod prinder ynddynt. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Dilyniant

    View more
    ,

    Nodiadau i’r golygyddion:

    • Yn 2013, fe wnaethom edrych ar drefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon, gan weithio gydag Estyn – arolygiaeth ysgolion Cymru. At ei gilydd, cododd yr adroddiadau bryderon ynghylch rheoli absenoldeb, yr effaith ar gynnydd dysgwyr, cymorth i athrawon cyflenwi a chost cyflenwi. Ers 2013, cynhaliwyd sawl adolygiad a datblygiad arall o ran polisi, canllawiau a threfniadau contractio Llywodraeth Cymru. Rydym yn asesu’r sefyllfa ddiweddaraf ac effaith rhai o’r camau gweithredu hyn yn yr adroddiad dilynol hwn.
    • Mae Atodiad 2 yn yr adroddiad yn darparu amserlen o ddatblygiadau allweddol ers 2013, gan gynnwys adroddiad Tasglu Gweinidogol [yn agor mewn ffenestr newydd] yn 2017. Mae Atodiad 3 yn rhoi rhagor o fanylion am y contract cenedlaethol cyfredol ar gyfer staff asiantaeth mewn addysg a’r newidiadau a wnaed o’i gymharu â chontractau blaenorol. Ar hyn o bryd, mae 25 o wahanol asiantaethau ar y contract.
    • Ataliwyd ysgolion rhwng 20 Mawrth ac 28 Mehefin 2020 o ganlyniad i bandemig COVID-19. Cafodd athrawon cyflenwi cymwys a oedd yn gweithio i asiantaethau ar y fframwaith cenedlaethol eu rhoi ar ffyrlo drwy gynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gynghorau ac ysgolion barhau i dalu’r rhai a gyflogwyd yn uniongyrchol hyd at ddiwedd eu contractau. Ond, nid yw effaith hirdymor yr aflonyddu hwn ar y gweithlu cyflenwi ac asiantaethau yn hysbys ar hyn o bryd.
    • Ymateb dienw i’n hymgynghoriad yn gynnar yn 2020: “Gall athro cyflenwi cymwysedig, profiadol, sy’n cyflwyno gwers sydd wedi ei chynllunio’n dda sydd naill ai’n annibynnol neu’n rhan o’r gwaith y mae disgyblion yn ei wneud, fod yn fuddiol. Os dim byd arall, mae disgyblion yn dysgu y gallant gael diwrnod diddorol wrth ddysgu gydag oedolyn newydd a datblygu cadernid a hyblygrwydd. Os yw disgwyliadau cyflenwi yn isel neu os yw’r addysg a ddarperir yn wael neu ddim yn bod, mae’r ddarpariaeth gyflenwi yn niweidiol i hunan-barch, cynnydd a dysg y plant.”
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am archwilio’n flynyddol fwyafrif yr arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £20 biliwn o gyllid y pleidleisir arno yn flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r arian hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio yr Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn destun cyfarwyddyd na rheolaeth gan Senedd Cymru na’r llywodraeth.
    • Corff corfforaethol yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cynnwys Bwrdd statudol â naw aelod ac sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i’r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu y Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ar sut y mae’n arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw enw ymbarél Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo ei hun.