Ymgynghoriad archwilio yn arwain y ffordd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

09 Tachwedd 2020
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi mynegi ei foddhad yn dilyn yr ymateb cadarnhaol gan awdurdodau gwasanaethau cyhoeddus i helpu i ail-lunio archwilio cyhoeddus yng Nghymru mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

    Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant.  Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach.

    Mae'r Ddeddf yn cynrychioli un o nifer o heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ysgogi'r angen am ddull newydd o archwilio. Ymhlith yr heriau a'r newidiadau eraill sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus mae gostyngiadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus, demograffeg newidiol yng Nghymru, cau cyfrifon llywodraeth leol yn gyflymach, dull sy'n ‘canolbwyntio mwy ar ganlyniadau’ o ran archwilio grantiau, datganoli cyllidol yng Nghymru a newidiadau technolegol ehangach.

    Ar ôl adolygu ymatebion mewn llythyr agored i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus [PDF 156KB Agorir mewn ffenest newydd], a gyhoeddir heddiw ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, mae'r Archwilydd Cyffredinol bellach yn bwriadu gwahodd nifer fach o gyrff i weithio gydag ef a Swyddfa Archwilio Cymru i ddatblygu a phrofi dulliau archwilio newydd, gan ddefnyddio canfyddiadau'r ymgynghoriad.

    Yn ogystal, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn gweithio'n agos gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, ar eu priod rolau o dan y Ddeddf, gan ddechrau gyda chynhadledd ar y cyd i'w chynnal yng Nghaerdydd ar 22 Tachwedd 2016, a fydd yn nodi'n fanylach eu dull o ran cydweithio. 

    Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    “Mae'r ymateb a gefais i'r ymgynghoriad cyntaf hwn wedi bod yn galonogol iawn. Rydym yn byw mewn amseroedd heriol a newidiol ond ceir brwdfrydedd a ffocws gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i arwain y ffordd tuag at ddatblygu sector cryfach, mwy cadarn nad yw dim ond yn addas ar gyfer y genhedlaeth hon, ond yn addas ar gyfer cenedlaethau i ddod hefyd.

    Byddwn yn annog arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddod i'n cynhadledd yn yr hydref lle bydd y Comisiynydd a minnau yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gweithio gyda'n gilydd. Mae craffu ar gyrff cyhoeddus yn allanol o'r pwys mwyaf er mwyn inni ddatblygu dull sy'n ategu'r ddeddfwriaeth newydd ac yn ei galluogi i gyflawni ei manteision a fwriadwyd ar gyfer Cymru.”