Ydych chi’n barod am her newydd yn 2017?

09 Tachwedd 2020
  • Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag newydd

    Mae nifer o swyddi gennym yn wag ar hyn o bryd ar draws y sefydliad:

    Swyddog Iaith Gymraeg - £27,746-£35,546 (2 flynedd, cyfnod penodol)

    Rydyn ni’n chwilio am rywun a all arwain trafodaethau’n effeithiol yn y ddwy iaith er mwyn cydlynu gweithgarwch Cymraeg ein sefydliad. Byddwch yn cydweithio’n agos â chydweithwyr o fewn y tîm Cyfathrebu i sicrhau fod allbynnau’n ddwyieithog a deniadol. Gyda chyfrifoldeb dros hybu cydymffurfiaeth â safonau iaith newydd, byddwch hefyd mewn cyswllt agos â chyflenwyr hyfforddiant allanol, fframwaith o gyfieithwyr yn ogystal â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

    Arbenigwr Cynllunio ac Adrodd – £36,629-£45,106

    Mae hon yn rôl gyffrous gyda chyfrifoldeb am baratoi adroddiadau blynyddol a chynlluniau pwysig, yn ogystal â chynlluniau ac adroddiadau ar gydraddoldeb. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu gwych a'r profiad o reoli prosiectau, sy'n gallu gweithredu ar ei liwt ei hun gydag ychydig o oruchwyliaeth ac arweiniad.

    Partner Adnoddau Dynol – £27,746-£35,546

    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r ymarfer Archwilio Ariannol yn ogystal â’r Rhaglen Hyfforddiant Archwilio i sicrhau'r gweithlu sydd ei angen a bod y gweithlu'n parhau i gael ei ysgogi a'i gymell. Bydd gennych ymrwymiad cryf i hunan ddatblygiad a dysgu, sgiliau ymchwil a dadansoddi da, a hyder wrth ddarbwyllo a dylanwadu.

    Archwilydd Tymhorol, Tîm Archwilio Ariannol - £22 yr awr

    Rydyn ni’n chwilio am archwilwyr a chymhwyster Pwyllgor Ymgynghorol Cyrff Cyfrifyddiaeth (CCAB) ar gyfer gwaith tymhorol dros dro rhwng mis Chwefror a mis Hydref. Bydd angen i chi fod yn aelod effeithiol o dîm, gyda sgiliau rheoli amser ardderchog, ac yn rhywun sy’n mwynhau gweithio ar nifer o brosiectau ar y tro. Mae sgiliau dadansoddi a chyfathrebu cadarn yn hanfodol er mwyn darparu papurau gwaith cryno i’ch Arweinydd Tîm. Fe fydd angen i chi fod yn fodlon i weithio’n hyblyg ac i deithio ar gyfer gwaith ledled Cymru.

    Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg o fantais i bob un o’r swyddi hyn, ond mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i’r swydd Swyddog Iaith Gymraeg. Ewch i’n tudalen swyddi am fwy o wybodaeth.