Taniwch yrfa sy’n cyfrif

09 Tachwedd 2020
  • Gallwch yn awr gyflwyno cais i’n rhaglen graddedigion

    A oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario?

    A ydych am helpu i gefnogi'r gwaith o wella ein gwasanaethau cyhoeddus?

    A ydych am ddechrau ar gyrfa sy'n cyfrif?

    Os felly, efallai mai bod yn Hyfforddai Graddedig gydag Archwilio Cymru yw'r cyfle perffaith i chi.

     

    Mwy am y swydd

    Fel Hyffroddai Graddedig byddwch yn gweithio gyda thimau i gynnal archwiliadau ariannol a pherfformiad. Byddwn yn eich helpu i weithio tuag at fod yn arweinydd y dyfodol yn sector cyhoeddus Cymru a'ch helpu i ennill cymhwyster cyfrifyddu Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) sy'n cael ei ganmol a’i gydnabod yn rhyngwladol.

    Dyddiad cau: 6 Ionawr

    Mae mw i yrfa yn Archwilio Cymru na dim ond rhifau, mae am gwneud gwahaniaeth mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl, o fewn y sefydliad ac yn ein cymunedau.

    Dysgwch fwy am y cyfle gwych hwn a sut i wneud cais [agorir mewn ffenestr newydd].

    Gallwch hefyd ddarllen yr hyn sydd gan ein Hyfforddeion Graddedig a Phrentisiaid presennol ei ddweud am weithio i ni.