Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rydym eisiau eich barn ar gyfer ein hastudiaeth ar dai fforddiadwy

03 Gorffennaf 2023
  • Atebwch ein galwad am dystiolaeth

    Mae gan Lywodraeth Cymru darged o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu rhwng 2021 a 2026. Adeiladwyd tua 2,600 o gartrefi ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod, felly bydd angen i'r gyfradd cwblhau godi'n sylweddol er mwyn cyrraedd y targed.

    Mae'r fideo byr isod yn esbonio sut mae'r targed presennol yn fwy ymestynnol na'r un blaenorol ar gyfer y cyfnod 2016-21 a sut mae heriau newydd wedi dod i'r amlwg ers pennu’r targed.

    Darllenwch y trawsgrifiad [agorir mewn ffenestr newydd].

    Pam rydym yn cynnal yr archwiliad?

    Mae angen dybryd am dai fforddiadwy yng Nghymru, ac mae cynyddu'r cyflenwad yn bolisi allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae'r gofyniad am gyllid yn sylweddol: mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd angen iddi wario o leiaf £1.6 biliwn dros dymor y Senedd i gyflawni ei tharged ar dai fforddiadwy.

    Gwnaeth yr Adolygiad Annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy, a gyhoeddwyd yn 2019, lawer o argymhellion a fwriadwyd i gryfhau'r rhaglen, a derbyniwyd y rhan fwyaf ohonynt gan Lywodraeth Cymru.

    Beth ydym yn bwriadu ei gynnwys?

    Bydd ein harchwiliad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud defnydd da o'i hadnoddau i gyflawni'r targed a'i fanteision cysylltiedig.

    Byddwn yn edrych ar sut mae rhaglen dai fforddiadwy Llywodraeth Cymru yn cael ei rheoli a'i chynnydd hyd yma, gan gynnwys y canlynol:

    • Sut mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn asesu angen tai
    • Gwerthusiad o geisiadau ariannu
    • Cyflenwi adnoddau i’r targed (cyllid grant a mecanweithiau cyllido eraill)
    • Llywodraethu a rheoli'r rhaglen, gan gynnwys systemau data
    • Cyd-weithio a pherthnasoedd rhanddeiliaid
    • Cyflenwi safleoedd datblygu addas ac a yw'r biblinell o safleoedd yn ddigonol i ddiwallu anghenion y dyfodol
    • Cynnydd wrth weithredu argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy, a gyhoeddwyd yn 2019
    • Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r heriau cyflawni a amlinellir uchod.

    Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, ac mae gennym ddiddordeb ym mhob mater sy'n cael effaith sylweddol ar gyflenwi tai fforddiadwy newydd. Fodd bynnag, ni fydd ein harchwiliad yn ymdrin â rheoli stoc dai sy'n bodoli eisoes neu faterion ehangach yn y farchnad dai, megis cynnydd perchnogaeth ail gartrefi mewn rhai rhannau o Gymru.

    Mae ein galwad am dystiolaeth yn arolwg byr gyda chwestiynau agored am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, yr hyn y gallai weithio'n well, a'r prif faterion y mae angen eu goresgyn i gyrraedd y targed.

    Pam ddylwn ateb yr alwad am dystiolaeth?

    Mae angen i lawer o bobl gydweithio'n llwyddiannus i ddarparu tai fforddiadwy a sylweddoli'r manteision ehangach niferus y gall eu darparu. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am eich profiadau am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda neu sydd heb weithio'n dda i gyflawni'r targed presennol a chynlluniau tai fforddiadwy eraill.

    Pwy ddylai ateb yr alwad am dystiolaeth?

    Os ydych yn gorff cyhoeddus, cymdeithas dai, sefydliad trydydd sector, unigolyn sydd â diddordeb neu gwmni preifat sy'n ymwneud â datblygu, adeiladu ac ariannu tai fforddiadwy, yna hoffem glywed gennych.

    Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn helpu i roi trosolwg o safbwyntiau rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol yng Nghymru.

    Cwblhewch ein galwad am dystiolaeth [agorir mewn ffenestr newydd]

    Bydd ein galwad am dystiolaeth yn cau ar 28 Gorffennaf 2023.

    Cysylltwch â Tai.Fforddiadwy@archwilio.cymru os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes angen mwy o amser arnoch i ymateb.