Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

£6.5 miliwn o dwyll ac ordaliadau a nodwyd gan y Fenter Twyll Cenedlaethol yng Nghymru

20 Hydref 2022
  • Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu bod dros £49.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru ers i'r Fenter Twyll Cenedlaethol ddechrau yn 1996.

    Mae’r Fenter Twyll Cenedlaethol yn ymarfer sy’n digwydd bod dwy flynedd sy'n paru data o fewn ac ar draws sefydliadau, systemau, a ffiniau cenedlaethol i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll neu wallau posib mewn hawliadau a thrafodion.

    Gwnaeth ymarfer y Fenter Twyll Cenedlaethol 2020-21 helpu cyrff cyhoeddus Cymru i nodi £6.5 miliwn o dwyll a gordaliadau, ac felly gwnaeth warchod adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gwnaeth y Fenter Twyll Cenedlaethol yng Nghymru helpu sefydliadau mewn rhannau eraill o’r DU i adnabod 153 o achosion o dwyll a gwallau gyda chyfanswm o £183,045.

    Gostyngodd gwerth canlyniadau Cymru yn y Fenter Twyll Cenedlaethol yn 2020-21 gan £1.5 miliwn o’i gymharu ag ymarfer blaenorol y Fenter. Y rheswm am y gostyngiad hwn yw bod nifer y ceisiadau twyllodrus neu wallus ar gyfer Gostyngiad i Bobl Sengl y Dreth Gyngor a budd-dal Tai a nodwyd dryw’r Fenter wedi lleihau. Cafodd y gostyngiad yn y deilliannau yn y meysydd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan gynnydd o ran canfod ceisiadau anghymwys ar gyfer tai cymdeithasol a hawliadau am grantiau cymorth busnes COVID-19. Er bod canlyniadau cyffredinol wedi gostwng, mae hyn yn rhannol oherwydd mater amseru. Dechreuodd llawer o gyfranogwyr y Fenter Twyll Genedlaethol adolygu pariadau’r Fenter yn hwyrach na'r arfer oherwydd pwysau gwaith yn deillio o bandemig COVID-19. Byddir yn adrodd ar arbedion hwyr o ganlyniad i Fenter Twyll Genedlaethol 2020-21 fel rhan o ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol yn 2022-23.

    Fe wnaeth saith maes ddwyn bron i 98% o’r deilliannau. Y meysydd hyn oedd y rhain; budd-dal tai, taliadau credydwyr, gostyngiad treth cyngor, bathodynnau glas, grantiau cymorth busnes COVID-19, cynllun gostyngiad treth y cyngor a rhestrau aros.

    Er bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru’n dangos ymrwymiad cryf i wrth-dwyll ac ymchwilio i bariadau'r Fenter, mae'r adroddiad yn amlygu mai ychydig iawn o’r pariadau a gawsant yr aeth rhai awdurdodau lleol ati i’w hadolygu, ac o ganlyniad ni wnaethant ddigon o waith i fynd i’r afael ag achosion posibl o dwyll.

    Am y tro cyntaf, cafodd pariadau’r Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru eu cyfoethogi gan ddata CThEM a ddarparwyd dan ddarpariaethau Deddf yr Economi Ddigidol 2017. Mae data CThEM yn profi’n hynod effeithiol er
    mwyn helpu i adnabod ymgeiswyr sydd wedi hawlio budd-daliadau a disgowntiau sy’n dibynnu ar brawf modd ond nad ydynt wedi datgan incwm a ddylai fod wedi cael ei ddatgan ar eu ceisiadau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at astudiaeth achos a oedd yn canolbwyntio ar y maes hwn.

    ,
    bod nodi £6.5 miliwn yn yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf hwn yn gyfraniad pwysig i gyllido gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae'n bwysicach nag erioed bod gan sefydliadau lywodraethiant a rheolaethau cadarn ar waith i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol rhag y risg o dwyll. Mae llwyddiant y Fenter Twyll Genedlaethol yn ddibynnol ar natur ragweithiol ac effeithiolrwydd cyrff sy’n cyfranogi o ran ymchwilio i’r pariadau data, ac mae'n siomedig nad oedd rhai cyrff yn Nghymru wedi cymryd rhan yn ddigonol yn NFI 2020-21. Ond rwy'n cydnabod bod y cyrff cyhoeddus wedi wynebu pwysau sylweddol yn sgil pandemig COVID 19.  Rydym yn argymell bod pob corff yn defnyddio ein rhestr wirio i hunan-werthuso eu rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol cyn ac yn ystod ymarfer y Fenter yn 2022-23. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Y Fenter Twyll Genedlaethol 2020-21

    View more