Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

09 Tachwedd 2020
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth heddiw

    Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn creu sail ar gyfer y ffordd mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb. Yn benodol y meysydd hynny o gyfrifoldebau tebyg yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

    Mae’n arddangos eu hymrwymiad i gydweithio er mwyn sefydlu disgwyliadau clir ar gyfer cyrff cyhoeddus, cynyddu effeithiolrwydd eu sefydliadau a gwneud y gorau o’u adnoddau ar y cyd.

    Mae’r Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd wrthi’n datblygu rhaglen waith ar y cyd a fydd yn cyflawni beth maent am ei wneud trwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

    Darllennwch ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth [PDF 650KB agorir mewn ffenest newydd].