Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian

09 Tachwedd 2020
  • Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario llai ar ymgynghorwyr ond ni allant ddangos gwerth am arian o ran sut y maent yn cynllunio, yn prynu ac yn rheoli gwasanaethau ymgynghori, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol.  

     

    Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.

    Gall mabwysiadu arferion da o ran caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau gwell gwerth am arian, ac mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi arbedion effeithlonrwydd posibl o fwy na £23 miliwn pe bai pob corff cyhoeddus yn dilyn arferion da. Fodd bynnag, prin yw'r cyrff cyhoeddus sy'n casglu ac yn dadansoddi data yn rheolaidd i'w cynorthwyo i brynu a defnyddio gwasanaethau ymgynghori yn fwy effeithlon, ac yn aml nid yw'r data ar wariant yn ddibynadwy. Canfu'r adroddiad hefyd:

    • bod cyfle i gyrff cyhoeddus gydweithredu'n ehangach;
    • nad oedd achosion busnes yn cael eu defnyddio'n helaeth a, lle y'u defnyddiwyd, roeddent yn aml yn hepgor gwybodaeth bwysig fel amcangyfrifon o gostau a manteision;
    • mai anaml y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried dewisiadau eraill heblaw ymgynghorwyr, gan gynnwys defnyddio staff mewnol yn hytrach nag ymgynghorwyr; a
    • bod cryn le i wella'r ffordd y rheolir contractau, gan gynnwys monitro a gwerthuso perfformiad ymgynghorwyr.

    Datganiadau i'r wasg

    Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario llai ar ymgynghorwyr ond ni allant ddangos gwerth am arian o ran sut y maent yn cynllunio, yn prynu ac yn rheoli gwasanaethau ymgynghori, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.

    Gall mabwysiadu arferion da o ran caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori helpu cyrff cyhoeddus i sicrhau gwell gwerth am arian, ac mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn nodi arbedion effeithlonrwydd posibl o fwy na £23 miliwn pe bai pob corff cyhoeddus yn dilyn arferion da. Fodd bynnag, prin yw'r cyrff cyhoeddus sy'n casglu ac yn dadansoddi data yn rheolaidd i'w cynorthwyo i brynu a defnyddio gwasanaethau ymgynghori yn fwy effeithlon, ac yn aml nid yw'r data ar wariant yn ddibynadwy. Canfu'r adroddiad hefyd:

    • bod cyfle i gyrff cyhoeddus gydweithredu'n ehangach;
    • nad oedd achosion busnes yn cael eu defnyddio'n helaeth a, lle y'u defnyddiwyd, roeddent yn aml yn hepgor gwybodaeth bwysig fel amcangyfrifon o gostau a manteision;
    • mai anaml y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried dewisiadau eraill heblaw ymgynghorwyr, gan gynnwys defnyddio staff mewnol yn hytrach nag ymgynghorwyr; a
    • bod cryn le i wella'r ffordd y rheolir contractau, gan gynnwys monitro a gwerthuso perfformiad ymgynghorwyr.

    Prin fu effaith mentrau wedi'u hanelu at annog dulliau cyson a chydlynus o gaffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori. Fodd bynnag, bydd Gwasanaeth Cynghori ar Ddefnyddio Ymgynghorwyr newydd, a fydd yn rhan o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn cynnig arweiniad i gyrff cyhoeddus ac yn rhannu enghreifftiau o arferion da. Nod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yw cryfhau caffael cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gwasanaethau ymgynghori wedi cael eu nodi fel un o'r prif gategorïau ar gyfer sicrhau arbedion posibl o hyd at £5.6 miliwn y flwyddyn.

    Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys:

    • datblygu achosion busnes cynhwysfawr;
    • gwella ansawdd a chysondeb data;
    • gwella'r broses o gaffael gwasanaethau ymgynghori;
    • dadansoddi'r defnydd o wasanaethau ymgynghori i helpu i lywio'r gwaith o gynllunio'r gweithlu; a
    • gwerthuso prosiectau ymgynghori sydd wedi'u cwblhau er mwyn dangos gwerth am arian a dysgu gwersi.

    Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Hugh Vaughan Thomas heddiw:

    Gall ymgynghorwyr fod o gymorth mawr i gyrff cyhoeddus o ran cynnig cyngor arbenigol i helpu i gyflwyno gwasanaethau a mentrau newydd yn gyflym, ond mae risgiau os na chânt eu rheoli'n effeithiol. Er bod gwariant ar ymgynghorwyr wedi lleihau ers 2007-08, mae angen i gyrff cyhoeddus fabwysiadu'r arferion da a nodir yn yr adroddiad hwn er mwyn gwella gwerth am arian a sicrhau arbedion effeithlonrwydd.'

    Nodiadau i Olygyddion

    • Yn yr archwiliad dadansoddwyd data a gasglwyd gan Spikes Cavell, cwmni preifat a ddadansoddodd wariant ar wasanaethau ymgynghori yn 2007-08 gan Lywodraeth Cymru a phob un o'r 22 o gynghorau. Comisiynwyd yr ymarfer casglu data gan Lywodraeth Cymru.
    • Ailadroddwyd yr un ymarfer gan Spikes Cavell ar gyfer 2010-11 ac roedd yr ymarfer hwn yn cynnwys data o'r Comisiwn Coedwigaeth, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Gorllewin Cymru. Yn ogystal dadansoddodd y cwmni ddata ar gyfer 2011-12 gan y saith bwrdd iechyd a'r ddwy ymddiriedolaeth iechyd.
    • Mae gwaith ymgynghori yn cael ei gontractio i gyflenwr allanol ac mae'n seiliedig ar brosiectau sydd ar wahân i fusnes arferol y cleient ac mae iddynt derfyn amser pendant.
    • Roedd gwasanaethau ymgynghori yn 2010-11 yn cynrychioli tua phedwar y cant o'r holl wariant ar nwyddau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
       
    • Eiddo ac adeiladu oedd y categori gwariant mwyaf ar wasanaethau ymgynghori yn 2010-11, sef £54 miliwn, gydag ymgynghorwyr rheoli yn ail, sef £46 miliwn.
    • Yn 2010-11, gwariwyd £86 miliwn ar wasanaethau ymgynghori gan lywodraeth leol, gwariwyd £42 miliwn ar wasanaethau o'r fath gan Lywodraeth Cymru a £6 miliwn gan y maes iechyd.
    • Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hyrwyddo gwelliannau er mwyn i bobl Cymru elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol sydd wedi'i rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae hefyd yn ymrwymedig i ledaenu arferion da ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.