Lansiwch yrfa sy’n cyfrif

09 Tachwedd 2020
  • Mae rhaglenni i ôl-raddedigion a phrentisiaid gennym ar gael

    A ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif? A yw gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi? A oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru?

    Os ydych wedi ateb 'oes/ydy' i'r cwestiynau hyn i gyd, mae gennym gyfleoedd swyddi ar gael i chi!

    Rydym ni'n chwilio am Hyfforddeion Graddedig a Phrentisiaid Archwilio Ariannol.

    Ynglŷn â'r rolau

    Fel Hyfforddai Graddedig, byddwch yn gweithio gyda thimau ar waith archwilio ariannol a pherfformiad. Byddwch yn gweithio tuag at ddod yn arweinydd y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn astudio'r cymhwyster cyfrifeg uchel ei barch ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef cymhwyster Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW).

    Dyddiad cau: 2 Gorffennaf 2019

    Fel Prentis Archwilio Ariannol, byddwch yn gweithio gyda thimau sy'n archwilio cyrff y sector cyhoeddus ledled Cymru, o fyrddau iechyd, awdurdodau lleol, awdurdodau'r heddlu a'r gwasanaeth tân, i Lywodraeth Cymru. Byddwch hefyd yn ymuno â rhaglen tair blynedd yn astudio tuag at gymhwyster mawr ei fri y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).

    Dyddiad cau: 4 Mehefin 2019

    Nid yw gyrfa yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â rhifau yn unig, mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth - gyrfa sydd wirioneddol yn cyfrif!

    Dysgwch fwy am y cyfleoedd arbennig hyn a gwnewch gais.

    Cewch hefyd darllen am yr hyn y mae ein Hyfforddeion Ôlraddedig a Phrentisiad cyfredol yn dweud am weithio inni [agorir mewn ffenest newydd].