Gwerth £4.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol

09 Tachwedd 2020
  • Ond mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i hybu cyfranogaeth yn y dyfodol er mwyn cynyddu effaith y fenter.

    Mae'r ymarferiad gwrth-dwyll cenedlaethol diweddaraf, sy'n cael ei gynnal bob chwe mis, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod £4.4 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn 2014-15, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.
    Gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth, mae'n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau'r effaith bosibl ar wasanaethau rheng flaen. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau bod gan y rheiny sy'n derbyn gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau hawl iddynt.
    Gan ddechrau yn 1996, mae'r Fenter Twyll Genedlaethol (y Fenter) yn cydweddu data ar draws sefydliadau a systemau er mwyn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i ganfod hawliadau a thrafodaethau ariannol sydd o bosibl yn dwyllodrus neu'n wallus. Hyd yma, mae'r cynllun wedi canfod dros £30 miliwn mewn twyll a gordaliadau yng Nghymru, ac £1.39 biliwn ar draws y DU.
    Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, heddiw:
     
    Mae twyll yn effeithio ar lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, ac felly mae'n rhaid i’r frwydr yn erbyn twyll barhau i fod yn elfen allweddol mewn sicrhau bod arian cyhoeddus cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.
     
    Mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn offeryn tu hwnt o effeithiol, sy'n parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn twyll ac mae'n dda gennyf gyflwyno canlyniadau'r ymarferiad chwe-misol diweddaraf.
     
    Rwyf yn parhau i weithredu strategaeth ar gyfer ehangu cyfranogaeth a defnydd o'r Fenter yng Nghymru, ac yn annog pob sefydliad yn y sector cyhoeddus i ddod ymlaen gyda chynigion ar gyfer cydweddu data posibl pellach a allai fod o gymorth i atal a chanfod twyll."
    Fe wnaeth ymarferiad diweddaraf y Fenter ganfod ac atal twyll a gordaliadau gwerth £2.14 miliwn mewn Disgownt Person Sengl ar y Dreth Gyngor ac £1.16 miliwn mewn Budd-dal Tai.
    Cymerodd dau a deugain o gyrff y sector cyhoeddus ran yn yr ymarferiad diweddaraf, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu ac awdurdodau tân, a chyrff y GIG. Cymerodd Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru a chyflenwyr archwilio eraill a gontractiwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ran yn y Fenter ar sail gwirfoddol.
    Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i gynyddu nifer y cyfranogwyr yn y Fenter ac ymestyn cwmpas y Fenter i feysydd newydd sy'n agored i dwyll. Mae wedi ysgrifennu at nifer o sefydliadau gan gynnwys cymdeithasau tai a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn eu gwahodd i gymryd rhan yn ymarferion y Fenter yn y dyfodol. Mae hefyd wedi egluro cynigion i gynnwys data cyfatebol newydd y Fenter er mwyn cynorthwyo cyfranogwyr i frwydro yn erbyn twyll wrth fynd ymlaen.
    Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i atal twyll drwy roi mynediad iddynt at fodiwl newydd y Fenter a elwir ‘AppCheck’. Mae hwn yn galluogi sefydliadau i gynnal archwiliadau mewn amser real o fewn ceisiadau am fudd-daliadau a gwasanaethau, gyda'r bwriad o adnabod ymgais i dwyllo. Drwy ddefnyddio AppCheck gall cyfranogwyr y Fenter atal twyll rhag digwydd yn y lle cyntaf.