Fy Ngwasanaethau Cynllunio

09 Tachwedd 2020
  • A ydych wedi cael profiadau o gynllunio yng Nghymru?

    Rydym yn adolygu pa mor dda y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cefnogi lles tymor hir eu cymunedau ac rydym am glywed gennych!

    Rydyn ni eisiau gwybod beth yw'ch barn chi ar ba mor dda mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwella ffyniant economaidd ac a ydyn nhw'n diogelu eich cymuned rhag datblygiadau dieisiau.

    Rydym am glywed eich barn ar bethau fel:

    • sut ydych chi'n cael eich hysbysu am ddatblygiad presennol ac yn y dyfodol yn eich ardal;
    • pwy ddylai wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio;
    • pa mor fodlon ydych chi ar gynllunio gwasanaethau, ac;
    • effaith cynllunio ar ansawdd eich bywyd.

    Rydym am wybod a ydych yn teimlo bod gwasanaethau cynllunio yn glir ynghylch yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. A ydych yn credu eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol, ac a ydynt yn gwella ffyniant economaidd Cymru?

    Gallwch gymryd ein harolwg yn awr [bydd yn agor mewn ffenestr newydd]