Cynhadledd Dyfodol Diamod 2019

09 Tachwedd 2020
  • Ar 12 Rhagfyr, cynhaliodd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid y bedwaredd gynhadledd ar gyfer hyfforddeion cyllid, Dyfodol Diamod 2019

    Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.

    Adeiladodd digwyddiad eleni ar gynadleddau llwyddiannus y blynyddoedd diwethaf drwy archwilio'r newidiadau a'r heriau sy'n debygol o gael effaith ar weithwyr cyllid proffesiynol yn ystod eu gyrfa, ac fe'i cyflwynwyd gan weithwyr cyllid proffesiynol blaenllaw yn y maes.

    Stori’r dydd

    Rhanom ddigwyddiadau’r dydd wrth iddynt ddigwydd ar Twitter [agorir mewn ffenest newydd] ac annog pawb i ddefnyddio’r hashnod #DyfodolDiamod19 a #FinanceFuture19

    Dyma trosolwg o’r dydd wrth iddo ddigwydd:

    08:40 Heddiw yw diwrnod ein pedwerydd digwyddiad Dyfodol Diamod. Dilynwch y diwrnod wrth iddo ddatblygu gyda'r hashnod  #DyfodolDiamod19

    09:20 Dyma ddechrau ar ein cynhadledd #DyfodolDiamod19 eleni yn Neudd y Ddinas, Caerdydd! Dilynwch yr hashnodau am y diweddaraf ac i ymuno â'r sgwrs.

    09:28 Yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton yn agor #DyfodolDiamod19 heddiw yn disgrifio'r tri pheth rydym angen newid er mwyn llwyddo:

    • Adeiladu ffydd yn ein diwydiant
    • Cynyddu cyflymder gwelliant
    • Meddwl ac ymddwyn mewn ffordd mwy integredig ac ar y cyd ag eraill

    09:36 "Gallwn weithiau dioddef o osgoi risg, cael obsesiwn â thargedau a mesurau a gor-feddwl" Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol yn #DyfodolDiamod19 yn galw am y "diwydiant cyllid i fod yn hwylusydd - nid rhwystr rhag newid"

    09:38 "Fel cyfrifwyr ac archwilwyr, rhaid inni brofi ein bod yn deilwng o ffydd. Rhaid inni roi gwerth uchel ar ansawdd a chywirdeb" Adrian Crompton

    09:42 Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton yn herio #DyfodolDiamod19 i fod yn "llawn chwilfrydedd" ac i "ofyn i'n hunain sut allwn ailosod ein systemau a'n cydfeddwl mewn ffyrdd sy'n adeiladu ffydd, cyflymder ac integreiddio"

    09:48 Mae Andrew Goodall o #GIGCymru yn siarad â #DyfodolDiamod19 am ei daith trwy ei yrfa mewn gwasanaeth cyhoeddus.

    09:52 "Pan fyddwch yn gwneud eich swyddi, mae gennych gyfle i wireddu gwir newid yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus." Andrew Goodall yn #DyfodolDiamod19

    10:00 Andrew Goodall #GIGCymru yn annog #DyfodolDiamod19 i arddangos y gwerthoedd rydych yn byw ym mhopeth rydych yn ei wneud a bod defnyddwyr gwasnaethau cyhoeddus ar flaen pob penderfyniad y gwnewch.

    10:15 Mae gweithdai #DyfodolDiamod19 wedi dechrau. Mae'r rhai cyntaf ni am amlygu am fynd i'r afael â throsedd cyllid. Rydym wrthi'n trio fynd i feddylfryd twyllwyr a dysgu sut mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn helpu taclo twyll.

    10:24 "Gwerth amcangyfrifiedig o dwyll yn Llywodraeth Ganolog y DU yw £19.6 biliwn. A dyw hwna ddim yn cynnwys trethi a gwasanaethau cyhoeddus eraill." David Rees, Rheolwr Gwrth-dwyll y Swyddfa Archwilio yn rhoi ffigyrau brawyschus yn ei weithdy #DyfodolDiamod19

    10:40 Dal ar y thema o drosedd, rydym nawr wedi mynd i weithdy #DyfodolDiamod19 ar seibrdrosedd gyda DC Symon Kendall @HeddluDeCymru @SWPCyber sy'n rhannu astudiaethau achos go iawn o seibrdroseddau a sut mae'n cael ei frwydro.

    11:16 Mae gweithdai #DyfodolDiamod19 yn parhau gyda @MichReid2014 a Marisa Cass o @MerthyrVH yn trafod bod y sefydliad tai cyntaf yng Nghymru sydd wir yn gydfuddiannol a sut mae eu rheolaeth ariannol yn cefnogi eu dull gyda gwerthoedd cymdeithasol gref.

    11:36 Creu Dyfodol Diamod i Gyllid gyda @futuregencymru yw ein pedwerydd gweithdy i'w hamlygu. Mae @Cathy_Madge yn tywys #DyfodolDiamod19 trwy'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a sut all mynychwyr helpu cydweithwyr i fanteisio ar y ddeddf ac osgoi maglau cyffredin.

    11:49 Gall cyllid cael ei weld fel rhywbeth byr-dymor sy'n cael ei wneud o flwyddyn i flwyddyn. @Cathy_Madge yn annog #DyfodolDiamod19 i ddechrau trafodaethau a herio bod cynllunio hir-dymor yn rhywbeth y dylai'r diwydiant cyllid ei wnued.

    11:59 A fydd robotiaid yn dwyn ein swyddi mewn gwirionedd? Yw ein gweithdy bore #DyfodolDiamod19 olaf. Mae Rakesh a Jonathan o @PwCWales yn trafod deallusrwydd artiffisial, roboteg ac 'awtomatiaeth clyfar', eu heffaith, buddion a'r cyfleoedd sy'n dod o'u canlyniad.

    12:18 Hannah Evans, Cyfarwyddwr Trawsnewid @BaeAbertaweGIG yn #DyfodolDiamod19 yn trafod ei siwrnai arwain a swydd cyllid mewn trawsnewid.

    12:40 "Byddwch yn chwilfrydig" Hannah Evans @BaeAbertaweGIG yn siarad â #DyfodolDiamod19. "Darllenwch, cwestiynwch a dysgwch, a heriwch eich barn a'ch rhagfarnau eich hun"

    14:02 Ni nawr wedi mynd i'n gweithdai prynhawn #DyfodolDiamod19. Mae @Poidaddy o @AcademiWales yn rhannu tips ar sut i ddefnyddio seicoleg positif i leihau straen a chynyddu hapusrwydd yn eu gwaith.

    14:37 Rydym nawr yn clywed gan @PeeblesDon @cipfawales am beth ysgogodd @CIPFA i greu cod moeseg byd-eang ac yn herio #DyfodolDiamod19 i ystyried eu cyfrifoldebau moesegol fel cyfrifwyr sector gyhoeddus.

    14:50 #DyfodolDiamod19 A nawr beth am bach o ymarfer corff i gadw'n gynnes? Na? Ymarfer Moeseg felly gyda @CIPFA! Dull o brofi ein hunain yn erbyn ein cyfrifoldebau moesegol.

    15:28 David Francis o'r Swyddfa Archwilio, @kelliebeirne @ccrcitydeal a @chrisjonesWG yn rhoi #DyfodolDiamod19 mewnwelediad i beth maen nhw, fel arweinwyr sector gyhoeddus, yn chwilio amdano gan arweinwyr cyllid, a'u top tips i arweinwyr cyllid sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

    16:03 Ein gweithdy #DyfodolDiamod19 olaf am y dydd yw gyda @Aimee_Bateman @CareercakeTV sy'n rhoi i bawb yr offer i adeiladu a pherchnogi eich brand personol eich hun.

    16:13 A dyna 'ny am #DyfodolDiamod19 eleni. Diolch i bawb wnaeth gwneud heddiw'n bosib, ac fel dywedodd @AJBarrettWAO "pob lwc i bawb ar eich gyrfaoedd, beth bynnag fo hynny edrych"

    Lluniau

    Edrychwch a rhannwch y lluniau a dynnwyd o'r diwrnod ar ein tudalen Facebook [agorir mewn ffenest newydd].

    Cyflwyniadau'r gynhadledd

    Mwy o fanylion ar gael yn y flwyddyn newydd