Cyhoeddi enwebiad Archwilydd Cyffredinol

09 Tachwedd 2020
  • Croesawn enwebiad y Cynulliad i’r swydd

    Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad bod Adrian Crompton wedi’i ddewis fel yr enwebiad i fod yr Archwilydd Cyffredinol Cymru newydd.

    Mae’r penodiad dal yn amodol ar enwebiad ffurfiol gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a chymeradwyaeth terfynol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines

    Bydd Adrian yn cymryd lle’r Archwilydd Cyffredinol presennol, Huw Vaughan Thomas pan fydd yn ymddeol fis Gorffennaf 2018.

    Mae Adrian Crompton yn gweithio ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Adrian Crompton

    Dywedodd cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Garner:

    “Mae’r swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn un o’r rhai pwysicaf ym mywyd cyhoeddus Cymru ac edrychwn ymlaen at groesawu Adrian i’r swydd unwaith bod y broses ffurfiol wedi’i chwblhau. Bydd y Bwrdd a staff Swyddfa Archwilio Cymru yn parhau i gefnogi swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn ystod y cyfnod trosi i graffu ar wariant cyhoeddus a chefnogi a herio’r sector gyhoeddus wrth iddynt ddarparu gwasanaethau effeithiol i bobl Cymru.”