Arolwg blynyddol yn amlinellu ein cynnydd cydraddoldeb ac amrywiaeth

09 Tachwedd 2020
  • Arweiniai ail adroddiad ar y cyd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru at y cynnydd da a wnaed wrth gyrraedd amcanion Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd

    Yn 2015-16, parhaodd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i ddatblygu ein rhaglen waith cyffredinol i sicrhau fod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i’n galluogi i lwyr gyflawni ein dyletswyddau a’n hamcanion cydraddoldeb.
    Mae’r adroddiad yn bwrw golwg ar y cynnydd a wnaed ar yr amcanion a’r datblygiadau allweddol sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn.
    Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt yn ystod ein rhaglen waith ar gydraddoldeb yn 2016-17.
    Mae hyn yn cynnwys:
    • gweithredu cynllun gweithredu amrywiaeth y gweithlu a chyflog cyfartal
    • datblygu dull o weithredu swyddogaeth newydd yr Archwilydd cyffredinol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a
    • mireinio ein polisïau a gweithdrefnau trwy fonitro ac asesu’n gyson eu cymhwysiad a’u heffaith.