Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Archwilio Cymru yn cyflogi ar gyfer dwy swydd newydd

25 Awst 2022
  • Mae Archwilio Cymru wrthi'n chwilio am Gyfarwyddwr Archwilio (Cyfrifon) ac Uwch Swyddog Cofnodion a Phrosiectau i ymuno â'n timau

    Uwch Swyddog Cofnodion a Phrosiectau

    Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cofnodion a Phrosiectau i ymuno â'n tîm!

    A oes gennych lygad barcud o ran manylion, sgiliau trefnu a rheoli cofnodion a phrofiad o arwain gweithgareddau prosiect neu dîm bach? Yna efallai mai'r swydd hon yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano!

    Rydym yn recriwtio ar gyfer rhywun sy'n wych wrth reoli cofnodion, gan gynnwys cydlynu rhaglenni archifo ac adolygu, cynnal cofrestrau asedau gwybodaeth yn effeithlon ac effeithioler mwyn lleihau risgiau a chynnal uniondeb data, tra'n cynnig a sbarduno gwelliannau.

    Y dyddiad cau i wneud cais yw 12 Medi 2022

    Cyfarwyddwr Archwilio (Cyfrifon)

    Yn atebol i Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio ac i Archwilydd Cyffredinol Cymru, byddech yn rhan o’r Tîm Cyfarwyddwr cyfun sy'n ategu'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar draws y sefydliad.

    Rydym yn chwilio am rywun sy'n modelu'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n sail i Archwilio Cymru ac sy'n cymell cydweithwyr drwy ddiwylliant o hyfforddi a datblygu. Rydym hefyd yn chwilio am rywun fydd yn dod â'r ddeinamigrwydd a'r arweiniad strategol sydd ei angen i wireddu eu potensial fel sbardun i wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Y dyddiad cau i wneud cais yw 18 Medi 2022.

    Gallwch ganfod mwy am weithio yn Archwilio Cymru a sut i wneud cais am y swyddi ar ein gwefan.