Adolygiad o gyllid addysg bellach ar waith

09 Tachwedd 2020
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dechrau adolygiad o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn arolygu cyllid addysg bellach.

    Y nod yw gwirio pa un a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod sefydliadau addysg bellach yng Nghymru mewn sefyllfa dda yn ariannol i gwrdd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. 
    Mae gan y sefydliadau eu trefniadau rheoli ac archwilio eu hunain mewn lle, ond fe fydd tîm yr astudiaeth yn ymweld â rhai o’r colegau er mwyn trafod sut maent wedi addasu mewn ymateb i leihad mewn cyllid gan y llywodraeth.
    Mae disgwyl i’r astudiaeth gael ei chyhoeddi yn nhymor yr hydref 2016. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein papur briffio [PDF 360KB Agorir mewn ffenest newydd] .