Trawsgrifiad fideo [PDF182 Agorir mewn ffenest newydd]
Roedd y digwyddiad hwn yn dod â rheolwyr y sectorau at ei gilydd i rannu arferion da a thrafod ffyrdd ymarferol i'r sefydliadau ddatblygu gweithlu sy'n arbennig o ymgysylltiol.
Roedd yr uwchgynhadledd hon ar gyfer arweinwyr a rheolwyr busnes o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yng Nghymru. Mae'n bosib fod y digwyddiad hefyd yn fanteisiol i weithwyr proffesiynol o'r meysydd canlynol:
- Adnoddau Dynol
- Datblygu Sefydliadol
- Arloesi
- Cyfathrebu Mewnol ac Allanol
Amlinelliad o’r seminar
Roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys:
- Areithiau gan arbenigwyr ym maes ymgysylltu
- Gweithdai'n egluro'r gwaith ymchwil diweddaraf ym maes ymgysylltu a sut mae ymgysylltu'n gwella perfformiad busnes
- Sesiynau gydag arweinwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ar y panel
- Cyfle i rwydweithio er mwyn rhannu'r arferion gorau ymhlith mynychwyr
Pryd a ble
Dydd Llun 11 Tachwedd 2013
Stadiwm SWALEC, Sophia Walk, Caerdydd CF11 9SZ